Yn dda i'r amgylchedd, bywyd gwyllt etc.

Ar ôl peilot llwyddiannus y Grant Buddsoddi mewn Coetir y llynedd, heddiw rydym wedi agor cylch datgan diddordeb newydd a fydd yn dod i ben ar 15 Gorffennaf.

Mae’r cylch newydd hwn wedi’i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dylid gwneud cais drwy borthol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Unwaith eto, mae’r cynllun hwn ar agor i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw. Bydd yn helpu pobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu rhai presennol, yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i ddod yn rhan o rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy’n cael eu rheoli’n dda, yn hygyrch i bobl, ac sy’n rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur. Mae rhagor o wybodaeth am y Goedwig Genedlaethol i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Bydd y cynllun yn cynnig:

  • grantiau rhwng £40,000 – £250,000 (gellir ystyried prosiectau eithriadol sy’n costio mwy),
  • hyd at 100% o gyllid, 
  • hyd at 2 flynedd i gyflawni’r prosiect,
  • cyllid cyfalaf a refeniw, 
  • cyllid y gellir ei gyfuno â mathau eraill o grantiau a ffynonellau cyllid, 
  • cyngor a chymorth i gynllunio eich prosiect a sut i wneud cais

Bwriedir cynnal cylch arall yn nes ymlaen eleni.

Darllenwch ganllawiau rhaglen y Goedwig Genedlaethol cyn gwneud cais – mae ychydig o newidiadau ers y peilot. Mae manylion llawn y cynllun i’w gweld ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)

Gallwch hefyd archebu lle mewn gweminar gyda’r tîm drwy ymweld â Ticket Source:  TicketSource – Darganfod Digwyddiadau Gwych a Phethau i’w Gwneud o fewn Tafliad Carreg