1. Beth yw grant?
Grant yw swm o arian a roddir i unigolyn neu fusnes ar gyfer prosiect neu ddiben arbennig.
Fel arfer dim ond rhan o gyfanswm y costau y mae’r grant yn talu amdano.
Gall grantiau fod yn gysylltiedig â gweithgaredd busnes, creu swyddi neu sector diwydiant arbennig. Mae rhai grantiau’n gysylltiedig ag ardaloedd daearyddol, ee y rheiny sydd angen adfywiad economaidd.
2. Y broses ymgeisio
Cyn gwneud cais am grant, dylech wneud yn siŵr eich bod:
- yn bodloni amodau’r cynllun
- yn barod i roi rhywfaint o’ch arian eich hun neu sicrhau arian cyfatebol o’r sector preifat
- angen yr arian at ddiben arbennig
- ddim yn dechrau’r prosiect cyn cael cytundeb gan y corff / darparwr cyllid
Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r cynllun grant cywir i’ch anghenion chi, bydd angen i chi ddarparu:
- disgrifiad manwl o’r prosiect
- eglurhad am fanteision posibl y prosiect
- cynllun gwaith manwl wedi’i gostio’n llawn
- manylion eich profiad perthnasol a phrofiad rheolwyr allweddol eraill
- ffurflenni cais wedi’u cwblhau
3. Y manteision a’r anfanteision
Manteision
- nid oes rhaid ad-dalu’r rhan fwyaf o grantiau ac nid ydynt yn cael eu dangos fel dyled ar eich mantolen
Anfanteision
- gall y broses ymgeisio gymryd llawer o amser
- mae yna lawer o gystadleuaeth
- gall fod raid i chi ddangos cynnydd y prosiect i’r corff grant
- gall fod angen i chi gael arian cyfatebol, gan nad yw grantiau fel arfer yn talu am gostau llawn y prosiect
4. Camgymeriadau cyffredin
Gall eich cais gael ei wrthod os:
- nad yw maes eich ymchwil / grant yn berthnasol i’r corff sy’n dyfarnu’r grant
- nid ydych wedi egluro sut byddai’ch syniadau ymchwil yn cael eu rhoi ar waith
- mae datganiadau ar eich cynnig neu’ch cais nad ydynt yn cael eu hategu gan ffeithiau cefnogol
- nid oes ffocws i’ch cynllun ymchwil ac mae diffyg eglurder
- nid ydych wedi llwyddo i gyfleu effaith y gwaith ar y gymuned ehangach a diwydiant
- nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych yn y cais yn ddigon diweddar
- nid ydych wedi egluro pwysigrwydd yr arian i lwyddiant neu fethiant y prosiect
- ni allwch brofi eich bod wedi sicrhau arian cyfatebol
- nid ydych wedi profi’ch angen am gymorth grant
Os gwrthodwyd rhoi grant i’ch busnes, gallwch ofyn am adborth ar pam y gwrthodwyd y cais, i’ch helpu gyda cheisiadau yn y dyfodol.
5. Ffynonellau cyllid
Dyma’r prif grwpiau sy’n dyfarnu grantiau:
- Llywodraeth Cymru
- Llywodraeth y DU
- yr Undeb Ewropeaidd
- awdurdodau lleol
- cyrff elusennol
Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am ffynonellau grant.