1. Beth yw lesu?

Mae’n bosibl y bydd ar eich busnes angen asedau (fel dodrefn, offer cyfrifiadurol neu gerbydau cwmni) neu offer cyfalaf, fel cyfarpar mawr neu beiriannau.

Gallech brynu’ch asedau neu’ch offer yn gyfan gwbl, neu gallech benderfynu eu rhentu yn lle hynny. Mae hyn yn eich galluogi i gael yr offer a’r asedau sydd eu hangen arnoch na fyddech fel arall yn gallu eu fforddio efallai. Gall hefyd ryddhau cyfalaf gweithio i’w ddefnyddio mewn meysydd eraill o’ch busnes a’ch arbed rhag gorfod cymryd benthyciad mawr i dalu am offer yn gyfan gwbl.

Gallech fod eisiau lesio neu rentu offer sydd â chostau cynnal a chadw uchel, sy’n mynd yn hen ffasiwn yn gyflym, neu sydd ond yn cael ei ddefnyddio’n achlysurol.

Mae yna 3 phrif fath o gytundeb lesio - lesio cyllid, lesio gweithredol a llogi contract - a dylech ystyried yn ofalus pa un sy’n iawn i’ch busnes chi.

2. Mathau o lesoedd

Mae yna wahanol fathau o drefniant lesio (neu brydlesu). Dylech eu hystyried i gyd i weld pa un sydd fwyaf addas i’ch busnes chi a’r ased rydych yn ei gaffael.

Lesio cyllid

Lesio cyllid yw prydles tymor hir dros oes ddisgwyliedig yr offer, fel arfer 3 blynedd neu fwy, ac ar ôl hynny rydych yn talu rhent nominal neu gallwch werthu neu gael gwared ar yr offer – ni fydd y cwmni lesio ei eisiau mwyach. Er nad chi sydd berchen ar yr offer, chi sy’n gyfrifol am ei gynnal a’i gadw a’i yswirio.

Mae’n rhaid i chi ddangos yr ased a lesiwyd ar eich mantolen fel eitem gyfalaf, neu eitem a brynwyd gan y cwmni.

Mae prydlesi sydd dros 7 mlynedd, ac mewn rhai achosion 5 mlynedd, yn cael ei galw’n ‘brydlesi cyllid hir’ ac o dan hwn gallwch hawlio lwfansau cyfalaf fel pe baech wedi prynu’r ased yn gyfan gwbl.

Lesio gweithredol

Gyda phrydles weithredol, y cwmni lesio sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw ac yswiriant, a byddant yn cymryd yr ased yn ôl ar ddiwedd y les. Nid oes raid i chi ddangos yr ased ar eich mantolen.

Mae lesio gweithredol yn ddefnyddiol os nad ydych angen yr offer dros ei holl oes weithio.

Llogi contract

Gyda llogi contract, mae’r cwmni lesio yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros reoli a chynnal a chadw, megis trwsio a rhoi gwasanaeth. Nid oes angen i chi ddangos yr ased ar eich mantolen. Mae llogi contract yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ceir cwmni.

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • nid oes raid i chi dalu cost lawn yr ased ymlaen llaw, felly nid ydych yn defnyddio’ch arian i gyd neu’n gorfod benthyca arian
  • mae cyfle i chi gael offer o safon uwch, a allai fod yn rhy ddrud i chi ei brynu’n gyfan gwbl
  • rydych yn talu am yr ased dros y cyfnod penodedig o amser yr ydych yn ei ddefnyddio, sy’n eich helpu i gyllidebu ar gyfer y dyfodol
  • mae cyfraddau llog ar gostau rhent misol yn sefydlog fel arfer, felly mae’n haws rhagweld llif arian
  • gallwch ymestyn y gost dros gyfnod hirach o amser a gwneud taliadau sy’n cyd-fynd â’ch incwm
  • fel arfer gallwch dynnu cost llawn rhenti les o’ch incwm trethadwy
  • os nad ydych wedi prynu’r ased yn gyfan gwbl, nid oes raid i chi boeni am unrhyw orddrafft neu fenthyciad arall a gymerwyd i ariannu’r pryniant yn cael eu tynnu’n ôl ar fyr rybudd, gan orfodi ad-dalu cynnar
  • os ydych yn defnyddio prydles weithredol neu logi contract, mae’n bosibl na fydd angen i chi boeni am gynnal a chadw
  • y cwmni lesio sy’n ysgwyddo’r risg os yw’r offer yn torri i lawr
  • fel arfer gall y cwmni lesio gael cynigion gwell ar bris nag y gallai busnes bach a bydd ganddo well gwybodaeth am y cynnyrch
  • ar ‘lesau cyllid hir’ - lesau cyllid dros 5 (neu weithiau 7) mlynedd - gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost yr asedau
  • os ydych angen uwchraddio neu gael offer newydd, gallwch wneud addasiad bychan i’ch taliad rheolaidd yn hytrach na buddsoddi lwmp swm ymlaen llaw

Anfanteision

  • ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar yr asedau a lesiwyd os yw cyfnod y les yn llai na 5 (neu weithiau 7) mlynedd
  • mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu blaen-dâl neu wneud rhai taliadau ymlaen llaw
  • gall fod yn ddrutach yn y pen draw nac os ydych yn prynu’r asedau yn gyfan gwbl
  • gall eich busnes gael ei gloi mewn cytundebau anhyblyg, a all fod yn anodd eu terfynu
  • gall cytundebau lesio fod yn fwy cymhleth eu rheoli na phrynu yn gyfan gwbl a gallant ychwanegu at eich gwaith gweinyddu
  • fel arfer mae’n rhaid i’ch busnes fod wedi cofrestru ar gyfer TAW i gael cytundeb lesio
  • pan ydych yn lesio ased, nid chi sydd ei berchen, er mae’n bosibl y cewch ei brynu ar ddiwedd y cytundeb

4. Camgymeriadau cyffredin

Mae lesio’n fwyaf defnyddiol ar gyfer offer ac asedau na allwch fforddio’u prynu.

Mae’n bosibl y byddwch eisiau prynu offer neu asedau yn hytrach na’u lesio os nad ydych eisiau mynd i gytundeb lesio tymor hir neu os ydych eisiau cadw’ch costau tymor hir i lawr – mae’n aml yn ddrutach lesio offer neu asedau na’u prynu yn gyfan gwbl.

5. Ffynonellau cyllid

Mae’r mathau o gwmnïau sy’n cynnig hur bwrcas a chontractau lesio yn cynnwys:

  • is-gwmnïau prif fanciau’r DU
  • darparwyr sy’n eiddo i weithgynhyrchwyr, fel cynhyrchwyr ceir
  • banciau heb fod yn rhai’r DU
  • tai cyllid annibynnol
  • cyflenwyr offer
  • aelodau’r Gymdeithas Cyllid a Lesio (FLA)