Cymorth Dichonoldeb Arloesi Agored Galw am geisiadau

Mae dichonoldeb arloesi agored SMARTCymru'n cynnig cymorth ariannol i alluogi busnesau i ymgymryd ag astudiaeth ar sut y gallent ddatblygu a mabwysiadu diwylliant a phrosesau arloesi agored, gan arwain at ddull strategol, rheoledig tuag at arloesi agored a chydweithredu.

Diffiniad arloesi agored yn ein cyd-destun ni yw arloesi cydweithredol ar gyfer datblygu a masnacheiddio'n llwyddiannus technolegau a syniadau newydd.

Prif ganlyniad yr astudiaeth fydd cynllun arloesi agored ar gyfer y busnes, gan ddarparu'r rhesymeg a'r hyder i fuddsoddi adnoddau pellach i weithgareddau arloesi agored. Gallai ddarparu'r sail ar gyfer datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd, a ffrwythloni technolegau sydd ohoni ar draws sectorau i farchnadoedd newydd.

Mae cymorth yn fwyaf addas i fusnesau sydd am gynnig cyfleoedd lluosog a pharhaus ar gyfer cydweithredu.

Mae hyd at £30,000 ar gael i gefnogi 50% o gostau cymwys ar gyfer prosiectau sy'n ymestyn 6–12 mis.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â mark.lewis2@gov.wales