Ymunodd Dr Louise Jones â thîm rhanbarthol Innovate UK fel Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer Cymru ym mis Medi 2023. Dechreuodd Louise ei gyrfa fel Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) mewn Busnes Bach a Chanolig (SME) yng Nghymru. Defnyddiodd y canlyniadau o’i phrosiect KTP ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Louise ymlaen wedyn i weithio mewn grŵp ymchwil masnachol, lle bu’n gweithio ar brosiectau wedi’u hariannu gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru. Arweiniodd hynny at weithio gyda chwmni cynhyrchu trawsnewidiadau catalytig, gan eu helpu i sefydlu ffatri gynhyrchu. Ar ôl hynny, bu’n arwain ar brosiectau ymchwil diwydiannol cydweithredol, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru neu WEFO, ym Mhrifysgolion Bangor a Wrecsam. Yn sgil hyn, dechreuodd ffurfio cysylltiadau newydd yn Llywodraeth Cymru, mewn diwydiant ac mewn grwpiau ymchwil eraill ledled Cymru.

 

Ymunodd Louise ag Innovate UK KTN ym mis Medi 2013 ac mae wedi dal swyddi ym meysydd ffotoneg, gweithgynhyrchu haen-ar-haen a systemau ynni, lle canolbwyntiodd ar waith yn ymwneud â sero net. Drwy gydol ei hamser yn IUK KTN parhaodd Louise i gymryd rhan mewn gweithgareddau yng Nghymru ac mae’n ymwneud yn aml â Llywodraeth Cymru a’r ecosystem yng Nghymru. Mae’n aelod o baneli cynghori ar gyfer CCR, Bargen Twf y Gogledd, CS-Connected SIPF a Photonics Connected, gan ddefnyddio ei gwybodaeth a’i chysylltiadau i gynnig cefnogaeth ac arweiniad pan fo angen. Arweiniodd hefyd ar y cynllun peilot mabwysiadu a lledaenu yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio ei harbenigedd a gweithio gyda’i chysylltiadau presennol i gynnal gweithdai i helpu i ddiffinio anghenion y rhanbarth.