Anna Nicholl

Anna yw Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Sectorau CGGC. Mae'n arwain gwaith y sefydliad ar bolisi, datblygu a chyfathrebu.

Mae Anna wedi bod yn ymwneud â nifer o sefydliadau gwirfoddol fel gwirfoddolwr, ymddiriedolwr ac aelod o staff. Cyn ymuno â CGGC, bu'n gweithio i'r Alliance for Useful Evidence, sy’n rhan o Nesta. Cyd-sefydlodd Gwmni Budd Cymunedol i ddatblygu syniadau ar gynaliadwyedd a lles. Anna oedd Cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru rhwng 2012 a 2016.

Mae Anna hefyd wedi gweithio mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth. Bu'n Gynghorydd Arbennig i Gabinet Llywodraeth Cymru rhwng 2008 a 2011 ac yn ddiweddarach yn Gynghorydd Arbenigol ar Gymunedau Cynaliadwy i Llŷr Gruffydd AC.

Cafodd Anna ei magu yn Aberteifi, ac mae'n dal i fod wrth ei bodd yn nofio yn y môr.