Dr Carol Bell

Mae Carol yn ddiwydiannwr a chyllidydd profiadol. Cafodd ei hyfforddi fel Gwyddonydd Cenedlaethol a dechreuodd ei gyrfa yn y diwydiant olew a nwy cyn symud i’r byd bancio a chymryd swyddi cyfrifol gydag UBS, Credit Suisse First Boston, JP Morgan a Chase Manhattan Bank.

Yn 2019, Carol oedd un o Gyfarwyddwyr sefydlu Chapter Zero, rhwydwaith i gyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau ar gyfer risg yr hinsawdd a tharo targedau sero-net ar gyfer allyriadau carbon. 

Mae’n aelod o fyrddau’r cwmnïau canlynol gyda chyfrifoldeb am ynni (yn arbennig, Pontio i Ynni Glân), mwyngloddio a rheoli buddsoddiadau: Bonheur, Tharisa a’r BlackRock Energy and Resources Income Trust.

Mae’n aelod o fwrdd Banc Datblygu Cymru (sy’n buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru) ac yn aelod o gyngor Research England. Mae’n Is-lywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru a hi yw aelod benywaidd cyntaf Cymdeithas Bêl-droed Cymru.