Ieuan Wyn Jones

Mae Ieuan Wyn Jones wedi cymwyso fel cyfreithiwr ac yn gyn AS ac AC dros Ynys Môn. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru (2007-11). Yn 2013, wedi ymddeol o wleidyddiaeth fe sefydlodd Barc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc). Ef yw Cadeirydd presennol Bwrdd M-SParc.