iViTi Lighting Ltd

Cafodd iViTi Lighting ein sefydlu yn 2011 i gynhyrchu goleuadau LED a fyddai’n herio’r farchnad oleuadau gonfensiynol. Ers 2014, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, llwyddodd y cwmni i ddatblygu ei syniadau diweddaraf yn brototeipiau ar gyfer y farchnad fasnachol ac i ddefnyddwyr. Gyda nifer o gynnyrch newydd i’w rhyddhau ddiwedd 2015, mae’r cwmni ar ei ffordd i wneud ei farc yn y farchnad oleuadau fyd-eang.