James Yu

Mae James yn beiriannydd siartredig, yn Gymrawd IET ac yn Gymrawd/Athro Diwydiant yr Academi Frenhinol Peirianneg. Ef yw cynullydd Cyd-weithgor CIGRE Medium Voltage DC: C6/B4.37. Mae James hefyd yn Aelod Rheolaidd y DU o B4  (HVDC).

Ymunodd James â'r diwydiant trydan ar ôl iddo orffen astudio yn Newcastle upon Tyne. Ar hyn o bryd mae James yn atebol am brosiectau arloesi yn SP Energy Networks. Mae ei dîm yn gweithio ar brosiectau arloesi blaenllaw ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd, ac yn hybu arloesedd i fyd busnes, gan weithio gyda 186 o fusnesau bach a chanolig a thros 15 o brifysgolion yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Mae James yn angerddol am addysg, masnacheiddio hawliau eiddo deallusol (IPR) ac yn gwbl ymwybodol o'i effaith ddofn ar ddyfodol pobl ifanc. Mae'n oruchwylydd doethuriaeth (PhD) ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Glasgow, Prifysgol Newcastle upon Tyne a Phrifysgol Manceinion. Cyhoeddodd James dros 50 o bapurau academaidd yn ymdrin â'r farchnad drydan, rheoli'r rhwydwaith trawsyrru, cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac addysg beirianneg.