Karen Cherrett - cyd-gadeirydd, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi

Mae Karen wedi cael gyrfa lewyrchus ym maes polisïau gweithredol, rheoli cyfleusterau a chyflawni rhaglenni partneriaethau strategol. Pan oedd yn uwch ymgynghorydd ar gyfer cwmni arloesedd a thechnoleg byd-eang gwnaeth weithio gyda llywodraethau ar draws y DU er mwyn datblygu cynlluniau twf economaidd a chyflawni rhaglenni newid strategol.

Mae Karen bellach yn dewis a dethol ei phrosiectau gwaith: mae hi’n ymddiriedolwr ar ddwy elusen yng Nghymru (cyflawni annibyniaeth ar gyfer yr henoed a phobl sy’n byw gydag anableddau), yn rhedeg ei busnesau cynghori a newid ei hun ac yn gyd-gadeirydd ar Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW).