Laser Micromachining Ltd

Wedi’i greu fel menter ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor, mae Laser Micromachining Ltd (LML) wedi bod yn tyfu’n gyson yng ngogledd Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Heddiw mae’n un o brif ddarparwyr gwasanaethau gweithgynhyrchu laser y DU.