Nadine Payne 

Mae Nadine yn arwain Tîm Partneriaethau Strategol Prifysgol Caerdydd, gan ddatblygu cydweithrediadau hirdymor sy'n fuddiol i'r ddwy ochr, gan gynnig gwasanaeth cyfannol i bartneriaid allanol sy'n cefnogi eu hagendâu ymchwil, talent a chenhadaeth ddinesig. Mae ei rôl yn cefnogi gwaith cysylltu busnesu, llywodraeth a chymdeithas â'r academyddion a'r myfyrwyr i ddarparu gwerth economaidd a chymdeithasol.

Mae gan Nadine dros 15 mlynedd o brofiad o weithio ar draws yr agenda arloesi, ar ôl dal swyddi ar lefel strategol mewn sefydliadau addysg uwch a arweinir gan ymchwil yng Nghymru, ac mewn diwydiant. Mae wedi bod yn ffigwr canolog wrth yrru prosiectau, gweithredu strategaeth, a darparu gweithgareddau arloesi ar raddfa fawr ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys seiberddiogelwch, data a deallusrwydd artiffisial, gwyddor bywyd a gweithgynhyrchu.

Mae ganddi BSc mewn Seicoleg, ynghyd â chymwysterau gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a'r Sefydliad Marchnata Siartredig. Mae Nadine yn angerddol am greu Cymru fwy llewyrchus ac arloesol sy'n cael ei harwain gan arloesedd.