Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd yng nghanol Bae Caerdydd ar 14 Rhagfyr, ac roedd yn dathlu cyflawniadau'r dyfeiswyr addawol.
Nod y Gwobrau Arloesedd yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith meddyliau ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol o gynhyrchion a gwasanaethau bob dydd.
Dyma Enillwyr Gwobrau 2023:
Safon Uwch
1af - Sion O'Keeffe, Ysgol Bro Pedr, FretLuminate
2il - Carys Boardman, Ysgol Bryn Elian, Pecyn Offer Hygyrchedd
3ydd - Tomas Billington, Ysgol Brenin Harri’r VIII Y Fenni, Troli Bwrdd Syrffio
UG
1af - Jasmin Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych, Gwefrydd Brwsh Dannedd Di-wifr
2il - Sonny Normansel, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Cloch Drws Adborth Haptig i unigolion trwm eu clyw
3ydd - Rhys Wijeratne, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, System Llywio GPS wedi’i Phweru gan Dynamo
TGAU
1af - Alys Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Dyfais Lleihau Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ar Hediadau
2il - Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Help Llaw
3ydd - Nanci Edwards, Trefynwy, Codi Ymwybyddiaeth o Amddiffyn Cefnforoedd
Aeth gwobrau eraill i:
Creadigrwydd - Emily Hay, Coleg Dewi Sant, Gêm Fwrdd Rhyfeddodau'r Byd
Gwobr Eiddo Deallusol - Finn Channing Davies, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Cyfarpar Dringo Crimpio
Gwyddoniaeth - Jacob Taylor Chow, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Ailffurfiwr Poteli Plastig
Wrth drafod y digwyddiad dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Fel sydd wedi'i nodi yn ein strategaeth arloesi, Cymru'n Arloesi, credwn fod meithrin diwylliant o arloesi yn hollbwysig. Mae'n helpu i ysgogi pobl ifanc i symud ymlaen i brentisiaethau a gyrfaoedd crefftus o ansawdd uchel, felly rwy'n falch ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth â CBAC i gynnal Gwobrau Arloesedd Cymru."
I ddarllen rhagor am y digwyddiad, cliciwch yma. Mae lluniau o'r digwyddiad hefyd ar gael yma.