Mae GIG Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi herio busnesau i ddatblygu dulliau arloesol newydd cyflym ar gyfer diheintio ambiwlansau yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. 

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach a’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA), mae busnesau wedi ennill contractau ymchwil a datblygu i weithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Bydd y busnesau hyn yn mynd ati’n gyflym i ddatblygu atebion er mwyn helpu i gyflymu’r broses o lanhau ambiwlansys a cherbydau eraill ac, yn y pen draw, er mwyn achub bywydau yn y frwydr genedlaethol yn erbyn y pandemig.

Ar hyn o bryd, mae’n cymryd hyd at 45 o funudau i lanhau ambiwlansys ar ôl iddynt gludo cleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt. Hefyd, mae’r gorsafoedd glanhau yn aml yn bell, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig, ac mae hynny’n arafu ambiwlansys wrth iddynt ymateb i alwadau brys eraill.

Ar ôl i Trust alw ar fusnesau i weithredu drwy’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach, daeth dros 200 o geisiadau i law a lluniwyd rhestr fer ohonynt. Mae’r busnesau llwyddiannus bellach wedi cael eu dewis i ddatblygu eu hatebion a’u profi ar ambiwlansys yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf.

Caiff yr her ei rheoli gan Ganolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Cymru, sydd wedi’i lleoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, DASA ac Innovate UK. Bydd yr atebion yn cael eu profi mewn partneriaeth â DSTL Porton Down.

Dywedodd Jonathan Turnbull-Ross, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd Llywodraethu Interim yr Ymddiriedolaeth: “Diogelwch ein cleifion a’n staff trwy gydol yr argyfwng Covid-19 yw’r peth pwysicaf, ac mae’n rhaid i ni fod ar ben ein mesurau atal a rheoli heintiau.  

“Yn arferol gall gymryd 30 i 45 munud ychwanegol i lanhau cerbyd ambiwlans sydd wedi cludo claf yr amheuir ei fod yn dioddef o Covid-19, ond gall y broses gymryd sawl awr, yn dibynnu ar lefel y diheintio sy’n ofynnol.   

“Mae’n rhaid i ni feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ os ydym ni am gael datrysiad sy’n mynd i gyflymu’r broses hon, a rhyddhau ein criwiau’n ôl ar y ffordd yn gyflymach i ymateb i alwadau eraill. 

“Roeddem ni wrth ein boddau gyda nifer y cynigion a dderbyniwyd, ac wedi ein gwirioneddol gyffroi gan y syniadau a’r cysyniadau a gyflwynwyd gan y busnesau hyn. 

“Edrychwn ymlaen i weld sut y bydd rhain yn esblygu trwy’r camau gwerthuso, a deall sut y gellir cefnogi lledaenu’r dulliau arloesol hyn ar draws Cymru, a fydd yn achub bywydau.”  

Mae’r her yn cael ei rheoli gan Ganolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Cymru, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y Cyflymydd Amddiffyn a Diogeledd (Defence and Security Accelerator) ac Innovate UK.  

Ychwanegodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i arwain y chwiliad yma ledled y Deyrnas Unedig am ddatrysiadau glanhau a diheintio.   

“Yn y pen draw bydd unrhyw beth sy’n lleihau’r amser paratoi ein ambiwlansau yn dilyn eu defnyddio yn achub bywydau ac mae arloesi yn bwysicach fyth mewn cyfnod argyfwng. 

“Rwy’n gobeithio hefyd y medrwn ni ganfod datrysiadau y gellir eu defnyddio gan ein gwasanaethau brys eraill a’r gweithwyr ymroddgar sy’n cadw ein rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn symud.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen