Mae Lextox yng Nghaerdydd wedi gweld cynnydd yn ei allbwn ers derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Profodd cwmni profi cyffuriau, alcohol a DNA o Gaerdydd gynnydd yn ei allbwn o brofion samplu ers gweithredu newidiadau allweddol.

Mae Lextox yn darparu dadansoddiadau o wallt, alcohol a chyffuriau sy’n cael eu defnyddio ym myd y gyfraith, tystiolaeth arbenigol a phrofion tadolaeth DNA ar gyfer achosion cyfraith teulu a gofal plant ledled Cymru a Lloegr.

Ar ôl profi twf o 30% flwyddyn ar ôl blwyddyn, roedd Lextox eisiau sicrhau bod ei lefel gwasanaeth ardderchog yn cael ei gynnal.

Fe'i cyflwynwyd i gynllun SMART Productivity Llywodraeth Cymru, sef rhaglen arloesi a gynlluniwyd i roi hwb i gynhyrchiant busnesau Cymru trwy weithredu technoleg newydd.

Fe'i darperir gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru ac mae'r cymorth yn ariannu ymgynghoriad tri diwrnod gan arbenigwr arloesi allanol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, mae busnesau yn derbyn adroddiad sy'n nodi gwelliannau posibl i gynhyrchiant megis peiriannau, technoleg neu feddalwedd newydd.

Mae cymorth newydd, a lansiwyd eleni, yn darparu pum diwrnod ychwanegol o ymgynghoriaeth, gan gynorthwyo busnesau i weithredu'r argymhellion yn yr adroddiad.

Gydol cyfnod yr ymgynghoriaeth, roedd Lextox yn gallu awtomeiddio dau gam o fewn y broses brofi a fydd yn arwain at arbedion pellach o ran yr amser a dreulir yn prosesu pob sampl, a bydd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwell am gost is.

Meddai Rachel Williams, rheolwr labordy yn Lextox:

"Er bod y cynnydd mewn cynhyrchiant yn amlwg o fudd mawr i'r cwmni, yr hyn sydd wir wedi fy nharo i am ganlyniad y broses yw ymgysylltiad gwell y dadansoddwyr labordy, gan ein bod wedi gallu dileu rhai tasgau llaw diolch i'r prosesau gweithredu newydd.”

"Roedd y cyfnod ymgynghori cyfan yn hwylus dros ben, ac mae ein hymgynghorydd yn wybodus iawn am ein maes, a chymerodd ei hamser i arsylwi a deall y busnes heb fod yn ymwthiol ac mae wedi gwneud argymhellion cryf yn seiliedig ar ei gwybodaeth am offer a thechnegau presennol. At ei gilydd, roedd y broses yn hynod ddefnyddiol, ac fe wnaeth atgyfnerthu’r meysydd sydd angen eu gwella a nodwyd eisoes gan y busnes, gyda'r canlyniadau'n llawer mwy na’r amser oedd yn ofynnol i’r staff ei dreulio ar y gwaith.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen