manikin rescue

Mae cwmni Ruth Lee o Sir Ddinbych yn darparu manicinau maint llawn at ddefnydd hyfforddiant ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub, parafeddygon, y weinyddiaeth amddiffyn, meysydd awyr a gwylwyr y glannau ledled y byd. 

Mae gan Ruth Lee dros 60 mlynedd o brofiad yn y maes ac mae wedi ymrwymo i ddarganfod dulliau newydd o wella’r broses gynhyrchu. Ar ôl ymrestru ar raglen gynhyrchiant SMART Llywodraeth Cymru, derbyniodd Ruth Lee adroddiad trylwyr yn amlinellu gwelliannau posibl i arbedion effeithlonrwydd. Ymhlith yr argymhellion roedd buddsoddi mewn peiriant nwyddau awtomatig fel bod modd cwblhau gwaith torri gan beiriant a digideiddio patrymau, arbed amser a galluogi’r cynhyrchydd i nodi sut i osod y ffabrig.

Mae’r buddsoddiad hwn wedi gwella effeithlonrwydd a lleihau deunyddiau gwastraff o’r broses gynhyrchu yn sylweddol.

Mae’r cymorth, sy’n cael ei ddarparu gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, yn ariannu gwasanaeth ymgynghori tri diwrnod gan arbenigwr arloesi allanol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, mae busnesau’n derbyn adroddiad sy’n nodi gwelliannau posibl i gynhyrchiant, gan gynnwys peiriannau, technoleg neu feddalwedd newydd. 

Mae cymorth newydd a lansiwyd eleni yn darparu gwasanaeth ymgynghori pum diwrnod ychwanegol er mwyn helpu busnesau i weithredu argymhellion yr adroddiad. 
Meddai Stuart Cheetham, Rheolwr Gwerthiant y DU cwmni Ruth Lee: 

“Mae barn hyd braich ar y busnes a’i brosesau yn bwysig iawn i ni bob amser, ac fe gawsom wasanaeth rhagorol gan yr ymgynghorydd Cynhyrchiant SMART. Oherwydd ei wybodaeth fanwl am y diwydiant cynhyrchu, roedd yn gallu gofyn cwestiynau fel ‘Ydych chi wedi ystyried hyn?’ Roedd hynny’n well na gwneud argymhellion a fyddai’n amhriodol i ni.

“Mae’r argymhellion yn ein hadroddiad Cynhyrchiant SMART wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a phendant i’n busnes, a gallai’r broses fod wedi bod yn arafach o lawer heb y cymorth allanol gan fod pawb mor brysur yn ein gwaith o ddydd i ddydd.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen