Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, mae Llywodraeth Cymru nawr yn rhyddhau ei Chynllun Cyflawni Arloesedd cysylltiedig. Lluniwyd y Strategaeth i arwain ymyriadau a chymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf ac mae'r Cynllun hwn yn cyfeirio at yr un cyfnod.

Mae Cymru’n Arloesi yn cynnwys gweledigaeth i greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. I gyflawni hyn, tynnodd sylw at genadaethau mewn pedwar maes allweddol o gymdeithas:

  1. Addysg
  2. Economi
  3. Iechyd a llesiant
  4. Hinsawdd a’r amgylchedd

Ar gyfer pob cenhadaeth mae’r Cynllun Cyflawni yn nodi’r Nodau, y Camau Gweithredu, y Cerrig Milltir a’r Mesuriadau perthnasol y mae Llywodraeth Cymru – ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r cyhoedd – yn dymuno eu gweld yn cael eu cyflawni yn y tymor canolig a’r tymor hwy.

Cliciwch i’w ddarllen.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen