Cynhaliodd tîm Arloesi Llywodraeth Cymru'r siwrnai dysgu rithwir olaf yng ngham cyntaf y prosiect COHES3ION, sef prosiect tair blynedd o hyd Interreg yr UE sy'n tynnu ynghyd 10 partner o wyth o wledydd Ewrop — gan gynnwys Cymru — â'r nod o hyrwyddo twf busnesau a chreu swyddi ar draws Ewrop trwy arferion gorau a pholisi.

Yn ystod y gyfres o siwrneiau dysgu, mae pob partner yn cael eu hannog i rannu arferion gorau a hyrwyddo lledaeniad gwybodaeth. Mae'r prosiect yn ceisio cynyddu cydlyniant rhwng rhanbarthau a helpu i ysbrydoli gwledydd eraill i edrych o'r newydd ac addasu eu strategaethau arbenigo Doeth eu hunain yn barhaus.

Yn rhan o'r siwrnai dysgu a gynhaliodd Cymru, daeth partneriaid o Sbaen, yr Eidal, Rwmania, Iwerddon, yr Almaen, Sweden a Gwlad Pwyl ynghyd i glywed astudiaethau achos am arferion gorau ac esiamplau o waith o bob rhan o Gymru. Yn eu plith roedd cyflwyniadau gan Ganolfan Rhagoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), Menter y Cymoedd Technoleg a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR).

Rhannodd Prif Swyddog Gweithredol CCR a Rheolwr y Gronfa Her wybodaeth am y rhaglen CCR, sydd â'r nod o lywio a chynnal gweithgarwch economaidd, darparu cyflogaeth a datblygu sgiliau o safon uchel ar gyfer pobl sy'n byw yn Ne-ddwyrain Cymru trwy Gronfa Fuddsoddi'r Brifddinas-Ranbarth a'r Fargen Ddinesig. 

Rhoddodd cynrychiolwyr y Cymoedd Technoleg yn Llywodraeth Cymru gyflwyniad i'r partneriaid hefyd, gan rannu arferion gorau sy’n deillio o raglen £100m Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg dros gyfnod o ddeng mlynedd ym Mlaenau Gwent a'r ardal gyfagos er mwyn creu hyd at 1,500 o swyddi cynaliadwy o safon.

Rhannwyd astudiaeth achos gan y Ganolfan Rhagoriaeth SBRI, a sefydlwyd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, er mwyn galluogi cyrff o'r sector cyhoeddus i weithio gyda byd busnes Cymru i ddatblygu atebon arloesol i ddatrys problemau lle nad oes ateb.

Y rhith-achlysur yng Nghymru oedd siwrnai dysgu olaf 2020, gan nodi diwedd cam cyntaf y prosiect. Ers hynny, mae'r prosiect COHES3ION wedi cyhoeddi canlyniadau ei ymarfer Mapio Tiriogaethol Deallus ar sail y gwersi pwysig a ddysgwyd o'r cam cyntaf. Cyflawnodd partneriaid y prosiect ddiagnosis rhanbarthol er mwyn canfod meysydd ar gyfer cydweithio a synergedd, yn ogystal ag edrych ar feysydd lle gellir gwella o ran llywodraethu ymchwil a strategaethau arloesi ar gyfer arbenigaeth ddeallus.

Caiff canfyddiadau'r ymarfer eu defnyddio i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu rhanbarthol yng Ngham 2 o'r prosiect COHES3ION, a fydd yn cychwyn ag achlysur ar 25 Mawrth eleni.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect COHES3ION, ewch i http://www.interregeurope.eu/cohes3ion/

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen