Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio agosach ac agosach rhwng Cymru a Thalaith Québec yn Canada.

Yn awr, gan adeiladu ar waith partneriaeth rhwng Hydro-Québec a Phrifysgol De Cymru i wneud ymchwil i fasnacheiddio technolegau hydrogen, mae’n hyrwyddo digwyddiad rhithwir y mis nesaf a gynhelir gan Gylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop (CRIQUE).

Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn darparu cyfle gwych ar gyfer busnesau ac academyddion sydd am fanteisio ar y cyfleoedd mae datblygu technolegau hydrogen yn eu darparu.

Bwriedir i’r digwyddiad fod yn gam ymarferol i helpu gyda’r broses o wneud cynigion sy’n gysylltiedig yn benodol â hydrogen i’r pedair galwad datgarboneiddio gan Horizon Ewrop, a fydd yn werth €154 miliwn.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen