Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam ei rhaglen arloesi lwyddiannus, SMART Productivity, sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Wedi’i lansio’n wreiddiol yn 2015, nod cynllun SMART Productivity, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yw helpu busnesau i gynyddu cynhyrchiant, gwella cynllun y cynnyrch a sicrhau eu bod wedi’u diogelu i’r dyfodol.

Roedd y cymorth gwreiddiol, a ddarparwyd gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, yn talu am dridiau o gymorth ymgynghori gan arbenigwr arloesi allanol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, mae busnesau’n derbyn adroddiad sy’n nodi gwelliannau posib i gynhyrchiant fel peiriannau, technoleg neu feddalwedd newydd.

Mae’r cymorth newydd hwn yn cynnig pum diwrnod ychwanegol o ymgynghoriaeth, a chymorth i fusnesau weithredu argymhellion yr adroddiad. 

Mae SMART Productivity eisoes wedi cefnogi dros 200 o fusnesau yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n barod ar gyfer y dyfodol.

Meddai Gethin Roberts o ITERATE Design + Innovation: 

“Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yng ngham cychwynnol SMART Productivity, ac roedd Llywodraeth Cymru eisiau annog mwy o bobl i barhau i wneud cais amdano, gan deimlo y gallent gynnig hyd yn oed mwy o gymorth i fusnesau Cymru.

“Roedden nhw’n poeni y byddai’r syniad o dderbyn adroddiad yn codi ofn ar bobl, ac yn aml, does gan arweinwyr busnes neu reolwyr busnesau bach mo’r amser i weithredu newidiadau, felly cawsom ein penodi gydag ymgynghorwyr eraill i gynnig cymorth ychwanegol er mwyn sicrhau bod argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.

“Os nad yw busnesau’n cofleidio technoleg a symud ymlaen gyda’r oes, maen nhw mewn perygl o gael eu gadael ar ôl, ond gwyddom pa mor anodd mae’n gallu bod i gael golwg gwrthrychol ar brosesau, a dyna sut rydym ni yma i helpu.”

Cafodd Red Dragon Manufacturing, menter gymdeithasol o Abertawe, gymorth cam cyntaf yn gynharach eleni. Meddai Jo Ashburner Farr, Prif Swyddog Gweithredol Red Dragon: 

“Fel busnes bach, gall cael rhywun o’r tu allan yn craffu ar eich prosesau godi ofn arnoch chi, ond mae’n bwysig a defnyddiol cael safbwynt rhywun arall ar yr hyn rydych chi’n ei wneud. Llwyddodd Bill, yr ymgynghorydd SMART Productivity a neilltuwyd i ni, i leddfu fy mhryderon ar unwaith. Aeth ati i grynhoi fy ngweledigaeth mewn adroddiad gyda chamau gweithredu a fyddai’n ein helpu i gyrraedd y nod.

“Diolch i’r adroddiad, cefais fy argyhoeddi ein bod ni ar y trywydd iawn, ac mae wedi’n galluogi i weithredu prosesau mewnol sy’n ystyrlon i ni yn hytrach na gwneud rhywbeth dim ond er mwyn ei wneud. Yn bwysicach fyth, mae’r holl broses wedi caniatáu i mi gyfleu a chyflwyno fy nghynlluniau i’m tîm dawnus a sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth yw ein nod.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen