Mae'r weledigaeth drawslywodraethol newydd o arloesi er mwyn creu Cymru gryfach, decach, a fwy gwyrdd yn dangos sut y byddwn yn mynd ati i arloesi mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol; gan fabwysiadu agwedd "seiliedig ar genhadaeth" ac ar gydweithio sy’n cynnwys pedair cenhadaeth:

  • Addysg: Hanfod y genhadaeth hon yw helpu i sicrhau bod gan Gymru system addysg as fydd yn helpu i pobl yng Nghymru i ddatblygu gwybodaeth ac i feithrin sgiliau arloesi drwy gydol eu bywydau – gan sicrhau y bydd talent, brwdfrydedd a photensial anhygoel ein pobl ifanc nid yn unig o fudd i economi Cymru yn y dyfodol ond eu bod hefyd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
  • Yr Economi: Hanfod y genhadaeth hon yw mynd ati i sicrhau bod Cymru yn genedl flaenllaw ac arloesol. Bydd economi Cymru yn arloesi er mwyn creu twf, yn cydweithio ar draws sectorau er mwyn datrys yr heriau sy’n wynebu’n cymdeithas, yn mabwysiadu technolegau newydd er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn defnyddio adnoddau mewn ffordd gymesur, ac yn caniatáu i ddinasyddion rannu cyfoeth drwy sicrhau gwaith teg.
  • Iechyd a Llesiant: Mae maint y galw sy’n wynebu system iechyd a gofal Cymru yn fwy nag a fu erioed o’r blaen. O dan y genhadaeth hon, bydd y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio â diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector i ddarparu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau mwy o werth ac effaith i ddinasyddion. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd ac yn arloesi er mwyn trawsnewid meysydd megis oedi wrth drosglwyddo gofal, y ddarpariaeth gofal yn y gymuned, gwasanaethau canser a gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Yr Hinsawdd a Natur: Hanfod y genhadaeth hon fydd gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau naturiol er mwyn gwarchod a chryfhau byd natur a datblygu’n gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Yng nghyd-destun ecosystemau, byddwn, wrth ymdrechu i arloesi, yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ar yr un pryd, gan sicrhau ein bod, wrth inni newid i economi llesiant, yn gwneud hynny mewn ffordd deg.

Mae'r strategaeth hon yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol deinamig i Gymru. Y nod yw cydweithio i sicrhau y bydd entrepreneuriaeth, arloesedd a thechnolegau newydd yn gallu cyrraedd pob rhan o’n cymdeithas, gan dod â gwell iechyd, swyddi gwell a mwy o ffyniant i fusnesau, i brifysgolion, ac i gymunedau lleol.

Wrth i raglenni presennol yr UE ddirwyn i ben eleni ac a oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn cael cymryd rhan ym mentrau gwyddonol yr UE yn y dyfodol, mae natur y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesi yn newid yng Nghymru.

Mae'r strategaeth yn gwneud ymrwymiad cadarn y bydd Gweinidogion Cymru yn ceisio sbarduno buddsoddiad oddi wrth Lywodraeth y DU a thu hwnt ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau arloesi'r DU pan fydd gennym nodau cyffredin, ar ôl iddynt ddatgan eu bwriad i gynyddu buddsoddiad ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi yn sylweddol y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Hefyd, mae'r Gweinidog yn cadarnhau heddiw nad dim ond i fusnesau a sefydliadau ymchwil yn unig y bydd cymorth Arloesi Hyblyg SMART ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru o hyn ymlaen. Bydd ar gael i unrhyw sefydliad a fydd am weithio ym meysydd ymchwil, datblygu ac arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, yr awdurdodau lleol, a’r byrddau iechyd. 

Mae datblygu Strategaeth Arloesi yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Wrth lansio'r Strategaeth Arloesi yn Renishaw plc ym Meisgyn, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r Strategaeth Arloesi hon yn cael ei lansio ar adeg dyngedfennol i'n gwlad. Wrth i’r rhaglenni sy'n cael eu hariannu gan yr UE ddirwyn i ben eleni, ac oherwydd nad oes unrhyw sicrwydd y byddwn ni’n cael cymryd rhan ym mentrau gwyddonol yr UE yn y dyfodol, bydd y dirwedd ymchwil, datblygu, ac arloesi yn newid yng Nghymru.

"Mae’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE yn golygu bod Cymru yn colli arian a rheolaeth, a bod ganddi lai o lais dros lai o arian. Felly, nod y strategaeth hon yw’n harwain at ffordd wahanol o arloesi. Allwn ni ddim cystadlu ym mhob maes, ond gallwn ni ddewis cenadaethau sy'n manteisio i'r eithaf ar ein cryfderau ac sy’n creu cyfleoedd newydd er budd y cyhoedd.

"Mae'n cenadaethau’n rhychwantu sawl sector ac yn mynd i’r afael â nifer o’r heriau sy'n ein hwynebu. Mae arloesi yn rhywbeth i bawb: dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i fod yn rhan o’r arloesi hwnnw, ac i elwa arno.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ddiwyro yn hyn o beth ac yn benderfynol o helpu pob rhanddeiliad i arloesi. Mae’n benderfynol hefyd o fod yn “Bair Dadeni”, ac i ddefnyddio’r grym sydd ganddi i ddod â busnesau a sefydliadau at ei gilydd i gydweithio yn y ffordd sydd ei hangen er mwyn inni fedru mynd â’r maen i’r wal."

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati cyn hir i gyhoeddi Cynllun Gweithredu atodol a fydd yn cynnwys nodau penodol a mesuradwy, er mwyn symud pob un o'r cenadaethau yn eu blaen.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen