Yn ystod yr amserau digynsail hyn, mae’n fwy pwysig nac erioed ein bod yn sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael eu brechu’n llawn.
‘Bydd y GIG yng Nghymru yn brechu oddeutu 1 miliwn o oedolion a phlant ar draws Cymru yn flynyddol, gan gynnwys imiwneiddiadau plentyndod a’r ffliw.’
Mae tymor y ffliw (Medi/Ebrill) yn unig yn gosod pwysau ychwanegol ar adnoddau’r GIG, a chyda’r posiblirwydd o ail don o COVID-19 dros fisoedd y gaeaf, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod sefyllfa iechyd poblogaeth Cymru ar ei orau, er mwyn ymdopi ag unrhyw alldoriadau newydd.
Eleni, yn sgil y pandemig COVID-19, bydd darparu’r breichiadau hyn yn fwy o her, yn sgil ystod ehangach o grwpiau agored i niwed (cysgodi), mesurau ymbellhau cymdeithasol, rheoli heintiau a chynnwys brechiad COVID-19. Y senario gorau fyddai brechiad COVID-19 yn cael ei ddarparu ar fyrder i nifer fawr o bobl mewn lleoliadau amgen yn y gymuned o hydref eleni ymlaen.
Y meysydd allweddol mae’r her hwn yn dymuno mynd i’r afael â nhw yw:
- Meddu ar ystod hyblyg o leoliadau i staff y GIG a gofal cymdeithasol gael eu brechu y tu allan i’r gweithle
- Cyflawni brechiadau (COVID-19 a/neu’r ffliw) yn ddiogel ac effeithiol ar gyfer preswylwyr a staff cartrefi gofal
- Gwella mynediad ar gyfer grwpiau a argymhellir sy’n methu cael mynediad i leoliadau brechu traddodiadol
Byddai canlyniad llwyddiannus i’r her hwn yn ein galluogi i gwrdd â’r targedau brechu cyfredol (ffliw) a chyflawni brechiadau COVID-19 yn ddiogel ac effeithiol i’r holl grwpiau cymwys yn ystod yr amserau anodd
rhain. Byddai canlyniad llwyddiannus ar gyfer yr her hon yn ein galluogi i gwrdd â’r targedau brechu cyfredol (ffliw) a chyflawni brechiad COVID-19 yn ddiogel ac effeithiol i’r holl grwpiau cymwys yn ystod yr amserau anodd rhain.
Rydym yn edrych at nodi, datblygu ac arddagnos technoleg cyflym. Ar ddiwedd y prosiect hwn, bydd systemau’n cael eu profi a’u harddangos mewn treial byw gyda GIG Cymru.
Rhaid i arloesiadau fod yn addas ar gyfer eu defnyddio ar fyrder o fewn y GIG, ac yn ddelfrydol eu bod yn addas i’w defnyddio yn fwy eang. Oherwydd y cyfyngiadau ar amser gyda’r her hwn, ni ystyrir datrysiadau gwybodeg.
Mae arnom angen syniadau y gellir eu datblygu a’u profi ar fyrder, gyda’r posibilrwydd o’u defnyddio ar draws y DU, gan ddechrau yng Ngorffennaf a’u cwblhau ddim hwyrach na Medi 2020.
Dyddiadau Allweddol:
Lansiad yr Her: 15 Gorffennaf 2020
Her yn Cau: 12 Hanner Dydd 29 Gorffennaf 2020
Darparu Adborth: 5 Awst 2020
Cyflwyno Contractau: 6 Awst 2020
Arddangos a Phrofi Datrysiadau: Wythnos yn dechrau 17 Awst 2020
Cwblhau’r Prosiect gan gynnwys Gwerthuso: 18 Medi 2020
Prosiect yn dod i ben: 25 Medi 2020
Am wybodaeth bellach ac i gyflwyno cais, cliciwch y ddolen ganlynol: