A ydych yn fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mawr yn nyfodol arloesi yng Nghymru, ac ymrwymiad i sbarduno newid? Os felly, hoffai Llywodraeth Cymru a Chyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (CCCA) i chi ymuno â nhw ar gyfer sgwrs ddydd Mercher 2 Mehefin i drafod ymchwil ddiweddar i’r tirlun arloesi yng Nghymru a thramor, ac i ddeall blaenoriaethau busnes Cymru o ran arloesi. Archebwch eich lle yma.

Os ydych yn y sector cyhoeddus a hoffech fod yn rhan o drafodaethau o’r fath, anfonwch eich manylion cyswllt at InnovationStrategy@llyw.cymru erbyn 5pm, ddydd Gwener 14 Mai.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen