Nick Cook 

Mae Nick yn gweithio i EPSRC (Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) fel Pennaeth Ymgysylltu Rhanbarthol Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol ar bob lefel. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau academaidd, diwydiannau ymchwil-ddwys lleol a Llywodraeth Cymru (gan gynnwys eu cyrff cyhoeddus). Diben hynny yw gwella dealltwriaeth EPSRC o allu a chapasiti Cymru a sicrhau dealltwriaeth o anghenion hyfforddiant ôl-raddedig lleol.

Cyn ymuno ag EPSRC, roedd gan Nick swyddi amrywiol o fewn diwydiant a’r sector Prifysgolion ac mae wedi gweithio mewn lleoliadau ymchwil ac arloesi ers dechrau ei yrfa.

Mae gan Nick gefndir mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymer a chwblhaodd MBA yn 2007.