Gall y cynllun Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19 gael ei ddefnyddio i gyllido’r canlynol:
- Prynu cyfarpar penodol
- Addasiadau i brosesau presennol
- Gweithredu prosesau newydd
Gallai’r cymorth gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu dyfeisiau meddygol, Cyfarpar Diogelu Personol a chyflenwi cynhyrchion diheintio.
Mae ffurflen gais syml a hefyd proses arfarnu gyflym a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i’r prosiectau hyn ddechrau gwneud gwahaniaeth ar unwaith.