Apiau cwmwl ac apiau symudol arloesol Aforza, sy’n seiliedig ar
Mae Arloesedd SMART wedi helpu Aforza i:
- Greu adnoddau Ymchwil a Datblygu mewnol
- Denu’r dalent orau i ddatblygu tîm deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol y cwmni
- Lansio ac integreiddio gwybodaeth y gellir gweithredu arni mewn apiau cwmwl ac apiau symudol, a gwneud hynny’n llwyddiannus
- Cynllunio i greu dros 100 o swyddi
Mae Aforza – sy’n gyfrifol am y prif ddatrysiad cwmwl a symudol a luniwyd yn benodol ar gyfer y diwydiant nwyddau defnyddwyr – yn grymuso busnesau o bob maint i werthu mwy a thyfu’n gyflymach â thechnoleg deallusrwydd artiffisial (AI), diolch i’r cyllid a’r cymorth y mae’r cwmni wedi’u derbyn drwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r cwmni, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2019, wedi dewis lleoli ei is-adran ymchwil a datblygu yng Nghymru, gan gael mynediad i brifysgolion Cymru a’u cronfa o raddedigion dawnus. Hyd yn hyn, dyma’r unig werthwr meddalwedd annibynnol sy’n ysgrifennu algorithmau deallusrwydd artiffisial neu ddysgu peirianyddol graddadwy ar gyfer gwneud rhagolygon o fewn y cwmwl at ddibenion y farchnad nwyddau defnyddwyr.
Mae Aforza wedi dylunio nodwedd ragolygu ragfynegol fanwl sy’n galluogi gwerthwyr nwyddau defnyddwyr (e.e. yn BrewDog neu Whyte & Mackay) i ragweld pryd y bydd cynnyrch penodol yn mynd allan o stoc mewn bar neu archfarchnad manwerthwr – a gwneud hynny’n gynt o lawer na dibynnu ar adnabyddiaeth ddynol.
Cysylltodd Aforza â rhaglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2019 ar ôl dewis Caerdydd fel pencadlys ymchwil a datblygu’r cwmni, er mwyn cael cyllid ar gyfer cynnal astudiaeth ar ddichonoldeb a manteisio ar arbenigedd i ddeall yn well sut i wneud y mwyaf o dechnolegau arloesol megis deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
Arbenigedd Arloesedd SMART mewn technoleg oedd y ffactor arwyddocaol mwyaf penodol, wrth i’r cwmni geisio mireinio eu halgorithmau rhagfynegol.
Dywedodd Nick Eales, prif swyddog cynnyrch a chyd-sylfaenydd Aforza: “Mae deallusrwydd artiffisial wedi profi’n arf gwerthu a marchnata effeithiol iawn. Mae gallu mynd at gwsmeriaid a siarad â hygrededd am ein datrysiad deallusrwydd artiffisial wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi helpu i’n sefydlu fel cwmni blaengar.
“Bu SMART yn ein helpu â thechnoleg a oedd yn rhagweld pryd y byddai siop yn gosod archeb newydd, gan wybod yn union beth maen nhw’n mynd i’w archebu, a rhagweld pa hyrwyddiadau fyddai’n mynd yn dda, ac argymell pryd y dylech ymweld â siopau.
“Roedd bod allan o stoc yn arbennig o berthnasol yn ystod y pandemig Covid-19. Fe welsoch yr holl brinder papur toiled. Dyma’r math o beth y gallai deallusrwydd artiffisial ei ragweld.
“Gallech ddweud, ‘ar sail tueddiadau presennol yn y farchnad, ar sail yr hyn a welwn mewn siopau eraill tebyg, ymhen 10 diwrnod, ni fydd unrhyw bapur toiled ar y silffoedd’.”
Mae rhaglen Arloesedd SMART wedi galluogi’r cwmni i gyrraedd y cam masnacheiddio, sydd wedi’u galluogi i gyflwyno eu technolegau cwmwl a symudol i 25+ o gwsmeriaid mewn 20 o wledydd gwahanol, ar draws nifer o gyfandiroedd.
Mae llwyddiant y cymwysiadau busnes wedi galluogi Aforza i dyfu’n sylweddol a chreu swyddi cynaliadwy. Bellach, mae gan y cwmni ei dîm pwrpasol ei hun ar gyfer datblygu deallusrwydd artiffisial, dan arweiniad peirianwyr, a chafodd pedwar ohonynt eu recriwtio oherwydd y cyllid.
Mae Aforza wedi tyfu o dîm o dri i weithlu o dros 75, ac mae Mr Eales yn ffyddiog y byddant yn gallu creu dros 100 o swyddi yn y pen draw.
Ychwanegodd: “Mae cefnogaeth y tîm SMART wedi bod yn sylweddol – mae’r arbenigwyr yn rhoi cyngor amhrisiadwy sydd wedi’n galluogi nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn ystod dwy flynedd anodd iawn.”