Professor Kevin Morgan

Strategaethau arloesi rhanbarthol yw un o brif bynciau ymchwil Kevin ac y mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar y mater ers canol y 1990au.  Yn ogystal â’i waith academaidd, mae wedi bod yn weithgar ym meysydd polisi ac ymarfer, gan weithio i’r Comisiwn Ewropeaidd, yr OECD a llywodraethau trefol a rhanbarthol ledled Ewrop ar strategaethau arloesi oedd yn seiliedig ar le. Cyd-sgrifennodd yr adroddiad ar bolisi arloesi yng Nghymru (Cwmpasu Dyfodol Polisi Arloesi yng Nghymru) a gomisiynwyd gan IACW ac mae’n aelod o dîm Prifysgol Cymru o ymchwilwyr sy’n gweithio ar Gronfa Her Dinas-Ranbarth Caerdydd, gafodd ei chreu i chwilio am atebion arloesol mewn 3 maes arbennig, sef: datgarboneiddio, iechyd a lles, a gweddnewid cymunedau.