Rhys Thomas 

Rhys Thomas yw Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae'n gyfrifol am oruchwylio Fframwaith Buddsoddi'r Fargen Ddinesig a darparu arweiniad strategol i ddatblygiad ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Rhys hefyd yn aelod o Banel Cynghori Strategol Fintech Cymru.

Cyn hyn, cyflawnodd Rhys nifer o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwyaf diweddar fel Pennaeth y System Arloesi ac Ymgysylltu â Busnes lle'r oedd yn gyfrifol am ddatblygiad strategol ac arweinyddiaeth System Arloesi Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys arwain a rheoli'r timau Arloesi ac Ymgysylltu â Busnes, a hwyluso partneriaeth, cydweithio a chydgysylltu effeithiol â phartneriaid allanol.

Mae gan Rhys radd israddedig o Brifysgol De Cymru a Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Caerdydd.