Mae SMARTinnovation yn trefnu bod ymgynghorwyr yn helpu busnesau yng Nghymru sydd am fod yn fwy cystadleuol, a hynny heb dâl.

Fel rhan o becyn newydd o gymorth SMART gyda chymorth ariannol yr UE, mae Archwiliad Iechyd ar gael i fusnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, peirianneg, ynni, TGCh, digidol, bwyd a diod, electroneg, meddygaeth/ iechyd, adeiladu a gwasanaethau ariannol.

Mae llawer o fusnesau eisoes wedi elwa ar Archwiliad Iechyd SMARTInnovation, gan gynnwys:

  • Cwmni gwasanaethau ariannol i wella gwasanaethau
  • Cwmni cynhyrchu i asesu a chynllunio cynnyrch newydd
  • Busnes peirianyddol mawr i wella gwaith tîm
  • Busnes offer proses i adolygu ei waith gweithgynhyrchu
  • Cwmni dylunio ac adeiladu ar sut i flaenoriaethu amcanion a gweithrediadau’r busnes

Ymgynghorwyr fydd yn darparu’r cymorth a bydd hwnnw wedi’i deilwra i gwrdd ag anghenion y busnes. Canolbwyntir ar feysydd fydd yn helpu’r busnes i fod yn fwy cystadleuol fel cynyddu cynhyrchiant, gwella ansawdd ac effeithiolrwydd a datblygu cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd.

"Roedd cael cyngor gan rywun â chymaint o brofiad yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn wirioneddol ddefnyddiol i ni. Rydyn ni’n gwybod nawr beth sydd angen inni fynd i’r afael â nhw i wella pethau. Y fantais arall oedd bod yr holl argymhellion yn gost-effeithiol sy’n golygu nad oedd angen i ni wario arian mawr i wneud y gwelliannau hynny."

Tom Dean – Rheolwr Datblygu Busnes, Screentec

"Cafodd pawb yn Border flas ar weithio gyda’r cynghorwyr. Cwmni bach ydyn ni, ac rydyn ni i gyd yn brysur wrth ein gwaith bob dydd, ond mae cymryd cam yn ôl i edrych ar beth rydyn ni’n ei neud o safbwynt ein cwsmeriaid yn beth defnyddiol iawn i’w wneud. Roedd y cymorth a gawsom yn help i wneud hynny ac roedd yr argymhellion yn ymarferol ac yn bosib."

Phil Davies – Rheolwr Masnachol, Border Merchant Systems Ltd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen