Red Dragon Flagmakers (brand Red Dragon Manufacturing Ltd)

Mae unig weithgynhyrchwr menter gymdeithasol gofrestredig Cymru wedi buddsoddi mewn adeiladau, cyfarpar a gweithdrefnau newydd diolch i gymorth gan raglen SMART Productivity Llywodraeth Cymru.

Cafodd cwmni Red Dragon Flagmakers o Abertawe ei sefydlu yn 2014 ar ôl i dri busnes gyfuno, gan greu busnes menter gymdeithasol sy’n gwneud baneri – y cyntaf a’r unig un o’i fath yn y byd. Trwy hyn, unwyd dros 55 mlynedd o brofiad gweithgynhyrchu Jo Ashburner Farr a’i thad Robin Ashburner, a ddechreuodd gynhyrchu baneri ar gyfer arwisgiad y
tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon ym 1969.

Mae gan Jo ddiddordeb angerddol erioed mewn mentrau cymdeithasol moesegol ac arferion gweithgynhyrchu teg. Yn 2006, cafodd ei henwi’n Fenyw Fusnes y Flwyddyn Cymru a’r DU am weithgynhyrchu moesegol, ar sail y brand ecogyfeillgar o fri, ‘Noonoo’, a
sefydlodd ar ôl graddio ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio Patrwm Arwyneb o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn 2014. Aeth Jo ymlaen i sefydlu uned gweithgynhyrchu moesegol annibynnol yn ninas Ho Chi Minh, Fiet-nam, sy’n cefnogi menywod a phlant wedi’u gadael ar y clwt, ac yno maen nhw’n creu cynhyrchion ecofoesegol i fabanod, sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.

Ar ôl ailgychwyn y busnes gwneud baneri gyda chryn lwyddiant, penderfynodd Jo gyflwyno brand Noonoo yn rhodd i InKind Direct, elusen Ymddiriedolaeth y Tywysog ym mis Mawrth 2017, ac atal gwaith cynhyrchu am y tro. Bellach, mae dros 100 o elusennau plant ledled y DU wedi elwa ar refeniw gwerthiant y stociau a’r asedau a gyfrannwyd. Erbyn hyn, mae Red Dragon Flagmakers – cwmni a ddechreuodd ar fwrdd cegin i bob pwrpas yn 2014 – yn cyflogi deg aelod o staff llawn amser yn ei ffatri newydd yng
Nghlydach, Abertawe. Mae pob aelod o’r staff yn cael ei hyfforddi trwy raglen hyfforddiant wyth cam y cwmni ei hun, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y prosesau torri, gwneud a thrimio ac mae’r tîm bob amser yn rhan o brosesau twf, datblygu a
phenderfyniadau’r cwmni ar sail ‘gweithredu gyda’n gilydd’. Mae Red Dragon yn dylunio a chreu nwyddau ar gyfer pob math o gleientiaid amlwg gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Ofod Ewrop a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad,
ond daw’r refeniw busnes craidd o gleientiaid preifat a chorfforaethol sy’n buddsoddi mewn arfbeisiau, lifrai wedi’u brandio, baneri seremonïol a gorchuddion eirch. Mae’r cwmni wedi mabwysiadu ethos ‘dim llinell gynhyrchu’ a ‘dim archeb yn rhy fach’ ac yn gallu cynhyrchu nwyddau wedi’u teilwra yn weddol gyflym ac yn cynnig yr un gwasanaeth effeithlon i bob cwsmer, waeth beth fo’r gyllideb.

Bu Red Dragon yn gweithio gyda SMART Productivity i sicrhau bod gan y busnes ddigon o adnoddau i dyfu yn y dyfodol, ac roedd hyn o gymorth er mwyn nodi pa asedau oedd eu hangen ar y cwmni i gyflawni ei gynlluniau ehangu uchelgeisiol. Rhan o’r cynllun twf hwnnw yw’r gwaith parhaus o ddatblygu a chynhyrchu ROOF, cot-fag â’r genhadaeth gymdeithasol benodol o leddfu digartrefedd a helpu pobl yr ymylon i ddychwelyd i gymdeithas brif ffrwd trwy hyfforddiant a gwaith cynaliadwy.

Cefnogir y prosiect arloesol hwn gan bartneriaeth sefydledig â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llamau, elusen pobl ddigartref yng Nghymru, ac mae pob eiddo deallusol wedi’i warantu gan TrustLaw trwy Sefydliad Thomas Reuter.

Ers gweithio gyda SMART Productivity, mae Red Dragon wedi symud i safle busnes tipyn mwy sy’n golygu pum gwaith yn fwy o le cynhyrchu a lle i’r cwmni ddefnyddio ei fuddsoddiad o beiriannau gwnïo newydd, byrddau torri ac offer ar gyfer dillad penodol.
Mae’r datblygiadau hyn wedi helpu i wella effeithlonrwydd o ran cynhyrchu ac adeiladu’r ISO9001 (a nodwyd fel offer allweddol gan adroddiad SMART Productivity) a fydd yn caniatáu i Red Dragon ehangu ei alluogrwydd a chyrraedd y nod o gynyddu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yng nghymoedd y De.

Yn sgil cymryd camau ar adroddiad SMART Productivity ac yn amodol ar ganlyniadau profion ar elfen gwrth-drywanu y got-fag, disgwylir i ROOF gael ei lansio’n swyddogol erbyn mis Tachwedd 2018.

“Fel busnes bach, gall cael rhywun o’r tu allan yn craffu ar eich prosesau defnyddiol godi ofn arnoch chi, ond mae’n bwysig a defnyddiol i gael safbwynt rhywun arall ar yr hyn rydych chi’n ei wneud. Llwyddodd Bill, yr ymgynghorydd SMART Productivity a neilltuwyd i ni, i leddfu fy mhryderon ar unwaith trwy wrando’n amyneddgar ar y ddrysfa o syniadau oedd yn fy mhen i (fel y rhan fwyaf o bobl greadigol). Yna, aeth ati i grynhoi hynny mewn adroddiad sy’n cynrychioli Red Dragon go iawn, gyda chynghorion ymarferol a fydd yn ein helpu i gyrraedd lle rydyn ni am fod fel cwmni.

Diolch i’r adroddiad, argyhoeddwyd y Bwrdd a minnau fod y busnes ar y trywydd iawn, ac mae wedi’n galluogi i weithredu prosesau mewnol sy’n ystyrlon i ni yn hytrach na gwneud rhywbeth dim ond er mwyn ei wneud e. Yn bwysicach fyth, mae’r broses wedi caniatáu i mi gyfleu a chyflwyno fy nghynlluniau i’m tîm dawnus er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod yn
union beth yw ein nod, gyda’n gilydd.”

Jo Ashburner Farr, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Gweithrediadau,
Red Dragon Manufacturing Ltd.

DIWEDD

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen