Mae DecTek, arbenigwr technoleg argraffu a resin wedi’i leoli yn Nhrefforest, wedi datblygu llawer ers dechrau cyflenwi cynhyrchion i’r diwydiant tlysau yn 2002. Heddiw, mae’r cwmni’n cynhyrchu mwy na miliwn o gynhyrchion y mis, gan gynnwys labeli resin cromennog blaenllaw’r farchnad, bathodynnau enw a sticeri ar gyfer rhai o frandiau mwyaf adnabyddus y byd, fel Google, eBay, Sky a BT.

Gyda throsiant yn cynyddu oddeutu 15 y cant bob blwyddyn, ac uchelgais i ehangu’r gweithle a gallu’r busnes, fe wnaeth y rheolwr gyfarwyddwr, Mike Beese, wneud cais llwyddiannus am gyllid arloesi Llywodraeth Cymru ar gyfer peiriant torri a chafnu newydd i gynorthwyo proses bathodynnau enw’r cwmni. Talodd Llywodraeth Cymru am ymgynghorydd hefyd – arbenigwr y diwydiant – i ddarparu tri diwrnod o gymorth i DecTek, gyda’r nod o gynyddu cysytadleugarwch y cwmni.

Roedd yr adroddiad diagnostig a ddarparwyd gan yr ymgynghorydd yn rhoi cipolwg annibynnol ar y ffordd yr oedd ei brosesau wedi cael eu sefydlu. Lluniwyd yr adroddiad rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2017, a chafodd yr ymgynghorydd fynediad at y staff a chael gweld y prosesau gweithgynhyrchu yn eu Rheolwr Gyfarwyddwr DecTek, Mike Beese, ym mhencadlys y cwmni ym Mhontypridd cyfanrwydd – gan ddilyn prosiect o’r dechrau i’r diwedd hyd yn oed – er mwyn cwblhau adolygiad cynhwysfawr a datblygu cyfres o argymhellion. Dadansoddodd effeithlonrwydd DecTek, gan amlygu beth oedd yn gweithio’n dda, ac amlygu meysydd y gellid eu gwella i fodloni ei strategaeth twf uchelgeisiol.

Deufis yn unig ar ôl cwblhau’r adroddiad, ac o ganlyniad i’r peiriant torri newydd, cyflogodd y cwmni bedwar aelod newydd o staff – gan gynorthwyo lles economaidd Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Ers 2015, mae’r cwmni wedi parhau i dyfu ac, erbyn canol 2017, roedd wedi cael cynnig gwerth oddeutu £9 miliwn o gyfleoedd. Mae Mr Beese o’r farn bod yr adolygiad diagnostig wedi cyfrannu at lwyddiant y cwmni. Darparodd safbwynt newydd o’r busnes a beth y gellid ei wneud i hybu ei gynhyrchiant, yn ogystal â gwirio’n annibynnol systemau seilwaith, trychinebau ac adfer cryf y cwmni – gwybodaeth bwysig ar gyfer cleientiaid presennol ac yn y dyfodol.

“Roedd gwneud cais am gymorth arloesi Llywodraeth Cymru, ar gyfer y peiriant torri newydd a’r adolygiad diagnostig yn broses gyflym ac effeithlon sydd wedi arwain at gyfleoedd ychwanegol, rhyfeddol i’r busnes. Byddwn i’n annog cwmnïau uchelgeisiol eraill sydd eisiau tyfu i wneud cais am gymorth Llywodraeth Cymru. Mae cael safbwynt trydydd parti o’r busnes trwy’r adolygiad wedi darparu mewnwelediad gwych, ac wedi rhoi i mi’r dewrder i ymdrechu am fwy. Rydym ni i gyd yn euog o fod ychydig yn hunanfodlon, a gall hunanfoddhad eich atal rhag gwireddu potensial eich cwmni.”

Sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr DecTek, Mike Beese.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen