Yr Athro Rob Deaves 

Mae gan Rob 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau amddiffyn, microelectroneg a chynhyrchion defnyddwyr mewn 3 chwmni eiconig; BAE Systems, STMicroelectronics a Dyson.

Yn gynnar yn ei yrfa bu'n arloesi drwy ddatganoli pensaernïaeth llywio a gymhwyswyd i systemau robotig. Yn ddiweddarach, tra'r oedd yn gweithio yn Dyson, bu'n arwain timau oedd yn arloesi trwy ymchwil gysyniadol robotig. Fel Arweinydd Technegol Cynnyrch, bu'n rheoli'r broses o gymhwyso'r datblygiadau arloesol hynny i'r 360Heurist, ail hwfer awtomataidd Dyson ar werthiant byd-eang.

Mae ei gyfraniadau cyhoeddus yn cynnwys cadeirio byrddau cynghori ar gyfer prosiectau EPSRC ar ymchwil arloesol. Mae'r prosiectau hyn wedi arwain at gwmnïau ymelwol llwyddiannus ac arloesol iawn, gan gynnwys SLAMCore a thechnolegau Opteran.

Yn 2017, cafodd ei ddyfarnu'n Athro Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg yn Imperial College. Datblygodd y rôl hon er mwyn ymwneud â 21 o brifysgolion cenedlaethol a 12 prifysgol rhyngwladol. Yn 2023, cafodd deitl Athro Anrhydeddus yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Birmingham, a dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth yr Academi Frenhinol Peirianneg.

Yng Nghymru, mae Rob yn cadeirio Bwrdd Gwyddonol Rhyngwladol prosiect Llywodraeth / Prifysgol Caerdydd, IROHMS. Yma mae'r ysgolion peirianneg, cyfrifiadura/gwybodeg a seicoleg yn darparu ymchwil ar gyfer arloesi trwy synergedd. Mae hefyd wedi cefnogi addysgu/ymchwil ym mhob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru.

Mae gan Rob ddiddordeb arbennig mewn sut y gall ymchwil prifysgol a thechnolegau uwch (gan gynnwys deallusrwydd artiffisial) helpu i dyfu a chynnal economïau a gwella cyfoeth a lles pobl yng Nghymru a'r byd.