Ailddychmygu llesiant

Bydd y prosiect yn gweithredu o dan thema iechyd a lles a bydd yn gysylltiedig â sefydliadau a phrosiectau cefnogol sydd wedi datblygu neu addasu gwasanaethau i gefnogi pobl yn ystod pandemig Covid 19, y mae angen iddynt addasu eto bellach i anghenion cyfnewidiol wrth inni ddechrau adfer a dychwelyd I’r ‘normal newydd’.

Nod y prosiect hwn yw gweithredu cynllun grant bach a all sicrhau bod grwpiau a phrosiectau llai ledled Powys - na fyddai modd iddynt fel arall gael mynediad at gyllid Ewropeaidd - yn cael cynnig y gefnogaeth i wneud hynny mewn modd sy’n gymesur â maint y cyllid a ddyrennir.

Felly bydd y cynllun grant yn ceisio cefnogi prosiectau sy’n peilota dulliau newydd ac arloesol o gyflawni gweithgareddau iechyd a lles ar raddfa fach sydd wedi eu dylunio a’u cyflawni trwy gyfranogwyr y gymuned leol.

Gellir crynhoi nodau’r prosiect fel a ganlyn:

● galluogi sefydliadau llai i gael cyllid Ewropeaidd trwy animeiddio a mentora grwpiau gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ym Mhowys.

● cynorthwyo datblygu a pheilota mentrau micro mewn cymunedau ar draws Powys o’r gwaelod i fyny. Bydd yn cyfuno hyn ag addasu gwasanaethau presennol sy’n cyflawni buddion iechyd a lles i drigolion lleol

● gwella gallu sefydliadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr lleol i gynllunio a chyflawni prosiectau yn eu cymunedau

● nodi a chanfod prosiectau y gellir eu gwneud yn fwy. Rhaeadru’r hyn a ddysgwyd trwy’r prosiectau hyn trwy’r Grŵp Ymateb y Sector Cymunedol a Fforwm Gwerth Cymdeithasol Powys.

Dyma fydd deilliannau’r prosiect:

● Gwella iechyd a lles trigolion mewn cymunedau ledled Powys o ganlyniad i gyflawni gweithgareddau newydd neu wedi eu haddasu yn y gymuned. Gall hwn wella iechyd corfforol a meddyliol ar ôl Covid 19.

● Cynyddu gallu sefydliadau cymunedau Powys i gynllunio, ariannu a gweithredu prosiectau datblygu lleol

● Mabwysiadu o leiaf un fenter a dreialwyd yn lleol i’w gynyddu a'i gyflawni ar draws Powys.

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£56905.38
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
Wellbeing Re-imagined
Wellbeing Re-imagined

Cyswllt:

Enw:
Michele Muireasgha
Rhif Ffôn:
01597 822 191
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.pavo.org.uk/home.html

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts