2 fuwch

I ddathlu diwrnod llaeth y byd, dyma rhagflas o'r ffordd y mae rhaglen datblygu gwledig Cymru, drwy ein grant cynhyrchu cynaliadwy, yn cefnogi diwydiant llaeth Cymru 

Adeilad y fuches odro - Mae'r prosiect hwn yn cynnwys adeiladu parlwr godro newydd, sied wartheg ac ardal drafod o dan un to.

Gate Farm Presaddfed - Mae'r prosiect yn seiledig ar droi Gate Farm o fferm stoc sych i fferm laeth ac yn cynnwys buddsoddi mewn pad bwydo, storfa slyri, parlwr godro, traciau gwartheg, cafnau dŵr a chyfleusterau trafod gwartheg.

Ardal trin parlwr godro a chwistrellydd tancer - Mae'r prosiect arfaethedig yn cynnwys gosod parlwr godro newydd mewn adeilad 135'x52' a llaethdy cyfagos i ehangu'r fuches o 140 o wartheg i 200 o wartheg. 

Aled Morris, Marian mawr - prosiect datblygu llaeth - Nod y prosiect yw cynyddu elw'r fferm a lleihau dibyniaeth ar gymorthdaliadau. Y cynnig yw cynyddu nifer y gwartheg gan wella iechyd, lles ac economeg magu heffrod cadw.

Cyfleusterau i gynyddu nifer y buchod godro - Nodau'r prosiect yw darparu'r cyfleusterau i wella perfformiad gwartheg a lleihau amser godro yn Ynysgain drwy osod parlwr gadael cyflym 20:40 a chyfarpar oeri llaeth. 

D T Miles a S Miles - Datblygu cyfleuster llaeth organig newydd yn Elliots Hill Farm sydd newydd ei phrynu.

Prosiect datblygu llaeth Rotari Gelliargwellt - Mae'r ymgeisydd yn dymuno buddsoddi mewn parlwr troi newydd, systemau rheoli buches, storfa laeth, system drafod anifeiliaid awtomatig a llociau geni lloi. 

Datblygiad llaeth Rhual - Mae Fferm Laeth Rhual am fuddsoddi yn ei chyfleusterau i wella'r seilwaith cyfredol i wella iechyd gwartheg a chynaliadwyedd ariannol y busnes ac effeithlonrwydd amgylcheddol. 

Gwella effeithlonrwydd cynhyrchu llaeth yn Neuaddlwyd - Buddsoddiadau i wella sied ac effeithlonrwydd bwyd anifeiliaid ar gyfer da byw a chynhyrchu cymaint â phosibl o laswellt o'r uned.

Ailddatblygu'r seilwaith llaeth yn Bayliau - Mae'r prosiect yn cynnwys ailddatblygu cyfleusterau y fuches odro'n sylweddol i wneud lle i fuches sy'n ehangu.

Cymorth pellach i'r diwydiant llaeth drwy'r cynllun cydweithredu ar gyfer datblygu cadwyni cyflenwi.

Rhaglen Gwella'r Sector Llaeth - Bydd y Rhaglen Gwella Llaeth yn datblygu ac asesu strategaethau ymgysylltu newydd yn Gymru gyfan i gynyddu proffidioldeb a chydnerthedd sector llaeth Cymru.

Menter Strategol Llaeth - Nod Menter Strategol Llaeth yw cynyddu proffidioldeb a chydnerthedd sector llaeth Cymru trwy leihau costau cynhyrchu trwy gynyddu effeithlonrwydd gan annog dulliau o liniaru neu addasu i'r newid yn yr hinsawdd.