Mae Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014–2020 – sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â'r Comisiwn Coedwigaeth – wedi trefnu dau weithdy , un yn Prifysgol Bangor, LL57 2DG ar 14 Hydref 2019 ac yr un arall yn Tall John's House, Brecon, LD3 7PX, 15 Hydref 2019, ar gyfer y sector i egluro'r newidiadau i arferion gweithio, ac i roi cyfle i randdeiliaid ofyn cwestiynau am y rheoliadau newydd.
Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle i drafod â rhanddeiliaid yr heriau diweddaraf sy'n wynebu'r diwydiant mewn perthynas ag iechyd coed, a'r ymateb i broblemau ynghylch iechyd coed megis Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw yng Nghymru a'r DU.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn cysylltwch â ForestryResearchCommissioning@llyw.cymru
Cofrestrwch erbyn 12pm, 10 Hydref 2019.
Cofrestru am Bangor yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/timber-passporting-and-plant-health-workshops-tickets-74939659539
Cofrestru am Brecon yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/timber-passporting-and-plant-health-workshop-tickets-74943172045
Cyfarwyddiadau a thrwydded parcio car ar gyfer Prifysgol Bangor:
Yr hyn y gallwn ei wneud
- cyfathrebu, rhannu a chyfnewid gwybodaeth a newyddion
- trefnu a hyrwyddo digwyddiadau a mentrau sy’n rhad ac am ddim
- arddangos enghreifftiau o brosiectau a ariennir ac astudiaethau achos
- cyflwyno gwybodaeth am gyfleoedd cyllido a’u hyrwyddo
- trefnu ymweliadau astudio, gan annog pobl i gydweithredu a rhannu gwybodaeth
- cysylltu busnesau, grwpiau cymunedol ac eraill sydd â diddordeb ym maes Datblygu Gwledig
- rhannu ymarfer da a gwybodaeth ategol y DU
- rhannu arferion gorau a gwybodaeth ategol yr UE