Riportio i'r Heddlu

Policemen

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101, ni ddylai'r cyhoedd orfod talu am alwadau 101 nad ydynt yn rhai brys fel y cyhoeddwyd gan GOV.UK Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft:

  • Mae cerbyd wedi’i ladrata
  • Mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • I gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis:

  • Bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • Mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd
  • Mae bywyd rhywun mewn perygl
  • Mae rhywun wedi’i anafu
  • Mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth