Lladrata a chamliwio i gael llyfrau siec a chardiau credyd

Online payment

Mae lladrata llyfrau sieciau a chardiau credyd yn golygu lladrata a thwyllo gan ddefnyddio cardiau credyd neu lyfrau siec fel ffynhonnell dywyllodrus o arian.  Mae camliwio’n golygu gweithred dywyllodrus o honni bod yn rhywun arall er mwyn cael arian a nwyddau'n dywyllodrus.  

Effeithiau

Gall busnesau golli symiau enfawr o arian drwy dwyll cardiau credyd.  Efallai na fydd yn amlwg bob tro i ble y bydd yr arian yn mynd, os yw rhywun o fewn y busnes fod yn cyflawni twyll cardiau credyd mae hynny’n ei gwneud y anos profi’r twyll.  Gall busnesau hefyd golli masnach os yw cwsmeriaid yn gweld bod y busnes yn un sy’n cael ei dwyllo.   

Rhwystro

Gwnewch yn siŵr fod gan eich banc drefn gadarn rhag twyll. Os oes gan eich busnes lawer o gardiau credyd, gwnewch yn siŵr mai dim ond staff y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw sy’n cael eu defnyddio.  Cadwch lygad wrth fancio ar lein i wneud yn siŵr eich bod yn canfod ac yn rhwystro unrhyw symudiadau arian heb awdurdod yn y fan a'r lle.  I rwystro twyll sieciau, gwnewch yn siŵr mai dim ond un person sy'n cael llofnodi sieciau.  

Riportio

  • Dylid adrodd ynghylch troseddau twyllo yn erbyn busnesau yng Nghymru i Action Fraud, un ai ar lein; neu drwy ffonio 0300 123 2040
  • Action Fraud yw canolfan adrodd ar dwyll ar gyfer y DU gyfan lle gallwch adrodd ar dwyll os ydych wedi dioddef o dwyll. 
  • Mae Action Fraud yn bwynt cyswllt sengl ar gyfer gwybodaeth ynghylch twyll a throseddau ariannol ar y rhyngrwyd.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol - asiantaeth y llywodraeth sy'n helpu i gydlynu'r frwydr yn erbyn twyll yn y DU.  Mae Action Fraud yn gweithio gyda phartneriaid mewn gwaith gorfodi’r gyfraith - y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan Heddlu Dinas Llundain - i wneud yn siŵr fod eich adroddiadau ynghylch twyll yn cyrraedd y lle iawn. 
  • Pan fyddwch yn adrodd wrth Action Fraud byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd yr heddlu.  Bydd yr adroddiadau a dderbynnir yn cael eu hanfon at yr heddlu ac efallai y cysylltir â chi i gael rhagor o wybodaeth.  Nid yw Action Fraud yn ymchwilio i achosion ac nid yw’n gallu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch cynnydd eich achos. 

Rhagor o wybodaeth / llawrlwytho