Dulas leaflets

Darparu cadwyni oer diogel ledled y byd diolch i oergelloedd sy’n rhedeg ar ynni’r haul

Mae Arloesedd SMART wedi helpu Dulas i:

  • Ddatblygu Technoleg Gyriant Uniongyrchol Solar, gan greu cenhedlaeth newydd o oergelloedd
  • Darparu offer cadwyni oer sy’n achub bywydau, ar gyfer storio brechlynnau Covid-19 yn ddiogel mewn gwledydd sy’n datblygu
  • Creu Academi Dulas, sef porth hyfforddiant ar-lein a ddefnyddir ledled y byd

Mae Dulas wedi dod yn gwmni allweddol yn y broses o gyflwyno oergelloedd Gyriant Uniongyrchol Solar (SDD) ledled gwledydd sy’n datblygu, diolch i’r cymorth y mae wedi’i dderbyn trwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Sefydlwyd Dulas yn 1982 gan beirianwyr o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, lle maent yn parhau i weithredu.

Mae’r cwmni’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n arwain y diwydiant, gan ddefnyddio ynni solar, ynni gwynt ac ynni dŵr. Elfen graidd o fusnes Dulas yw darparu cadwyni oer diogel ar gyfer cyfleusterau iechyd anghysbell ledled y byd. Mae oergelloedd brechlynnau SDD y cwmni yn sicrhau y gellir cyflawni rhaglenni imiwneiddio sy’n achub bywydau yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell, megis cymunedau yng Ngogledd Nigeria neu ar arfordir Madagascar.

Cysylltodd y cwmni ag Arloesedd SMART yn wreiddiol yn 2013 am gymorth i ddatblygu oergelloedd sy’n rhedeg yn uniongyrchol ar ynni’r haul yn hytrach na defnyddio batris traddodiadol. Ers hynny, mae’r rhaglen arloesedd a gaiff ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru wedi cyllido’r ymchwil ar ynni adnewyddadwy ac wedi darparu’r arbenigedd i Dulas ddatblygu eu system rheoli dysgu ar-lein fel rhan o’r prosiect oergelloedd.

Daeth y porth hyfforddiant ar-lein hwn – y ceir mynediad ato drwy Academi Dulas – yn hanfodol pan darodd y pandemig Covid-19, gan nad oedd yn ymarferol i barhau â’r dull traddodiadol o deithio er mwyn cynnal hyfforddiant â thechnegwyr gweinyddiaethau iechyd a thechnegwyr cadwyni oer mewn gwledydd tramor. Yn lle hynny, bellach mae technegwyr ledled y byd yn gallu sefydlu a gweithredu’r oergelloedd gan ddefnyddio’r porth.

Mae’r dull arloesol hwn wedi helpu’r cwmni i sicrhau archebion pellach ar gyfer eu hoergelloedd, ac yn ei dro, mae hyn wedi galluogi’r tîm i barhau â’u gwaith ym maes dosbarthu drwy gadwyni oer. Yn ogystal, mae wedi helpu sicrhau prosiectau a rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol ar gyfer cwsmeriaid, o fewn y Cenhedloedd Unedig a thu hwnt.

Dywedodd Ruth Chapman, Rheolwr Gyfarwyddwr Dulas: “Mae imiwneiddio’n rhywbeth a gymerwn yn ganiataol yn y byd gorllewinol ac mae’n elfen sylfaenol mewn unrhyw system fodern ar gyfer gofal iechyd.

“Fodd bynnag, mae gwledydd o hyd sydd, oherwydd rhyfel cartref neu ffactorau eraill, yn cael anhawster mawr wrth geisio sicrhau imiwneiddio ar gyfer eu poblogaeth.

“Er enghraifft, yn ddiweddar, anfonom tua 700 o oergelloedd SDD i Yemen i’w defnyddio mewn canolfannau iechyd dros dro, gan fod y wlad yn mynd trwy gyfnod o ansefydlogrwydd, gwrthdaro a thlodi mawr.”

Dathlodd Dulas 40 mlynedd mewn busnes yn ddiweddar, ac ar drobwynt hollbwysig ym maes ynni adnewyddadwy, maent yn parhau i dyfu ac yn llwyr fwriadu bod yn rhan o’r ymdrech fyd-eang i ddod â’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil i ben wrth fanteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy glân.

Dulas CYM
Dulas CYM