A Dylan's pizza box

Bwytai Dylan’s yn ychwanegu’r topin perffaith wrth i Arloesedd SMART drawsnewid eu dulliau

Bu Arloesedd SMART yn helpu Bwytai Dylan’s i:

  • Gyflwyno awtomeiddio ac arallgyfeirio’r busnes yn llwyddiannus
  • Cynhyrchu mwy na dwywaith y nifer o bitsas bob wythnos ar gyfer y farchnad manwerthu
  • Gweithredu cynnydd o draean yn nifer y staff

Mae Bwytai Dylan’s – sef busnes teuluol grŵp o fwytai pitsa, wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru – yn rhagweld twf sylweddol mewn gwerthiant a staff, diolch i’r cymorth a gawsant trwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gan Dylan’s dri bwyty ar lan y dŵr yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy, ac uned weithgynhyrchu ganolog. Yn draddodiadol, mae’r cwmni wedi cynnig amrywiaeth o fwyd môr a phitsas a wneir â llaw, gan ddefnyddio cynhwysion lleol.

Pan darodd y pandemig yn 2020, arallgyfeiriodd y cwmni ei weithrediadau, gan ddechrau â phitsas tecawê brand Dylan’s, cyn troi at gynhyrchu a phecynnu pitsas a sawsiau – wedi’u hysbrydoli gan fwydlenni’r bwytai – y gellir eu cyflenwi i’r sector manwerthu.

Cysylltodd y cwmni ag Arloesedd SMART ym mis Mehefin 2020 – ar ôl clywed am y cynllun drwy Busnes Cymru – i ofyn am gymorth i uwchraddio’r busnes, a gyflawnwyd yn bennaf drwy ddarpariaeth sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac integreiddio awtomeiddio i’w gwaith.

Bu’r canlyniadau’n rhyfeddol. Aeth y cwmni o gynhyrchu 700 o bitsas yr wythnos â llaw, i uchafbwynt o 2,000 yr wythnos yn haf 2021. Ar hyn o bryd, mae ganddynt y capasiti i gynhyrchu 6,000 yr wythnos, ac maent yn rhagweld gwerthu 66,000 o bitsas yn 2022.

Dywedodd Andy Foster, cogydd gweithredol grŵp Dylan’s: “Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb y gefnogaeth a gawsom. Bu’n rhaid i fwytai gau, roedd swyddi a bywoliaethau pobl yn y fantol, a gwyddem y byddai’n rhaid i ni esblygu ac addasu.

“Roedd cael mynediad at wybodaeth a setiau sgiliau ychwanegol trwy ein cysylltiadau â rhaglen Arloesedd SMART yn drawsnewidiol.

“Roedd yn cymryd mwy o amser i lapio’r pitsas a’u paratoi ar gyfer eu gwerthu nag oedd yn ei gymryd i’w cynhyrchu. Felly, cyflwynom beiriant cwbl newydd i lapio a selio’r pitsas. Aethom o lapio un pitsa bob munud i lapio naw bob munud.”

Mae’r newid o weithio â llaw yn llwyr i fod yn lled-awtomataidd wedi cadw’r gorffeniad crefftus o ansawdd uchel sydd gan bitsas Dylan’s, ac wedi’u gwneud yn gynnyrch hyfyw i’w werthu i farchnad ehangach. Mae’r ffigurau gwerthiant trawiadol wedi galluogi’r cwmni i ehangu a darparu cangen stryd fawr Dylan’s yn y gymuned leol.

Dywedodd David Retallick, sy’n gyfrifol am farchnata digidol a chyfathrebu yn Dylan’s: “Roeddem eisoes yn gwybod bod gennym gynnyrch poblogaidd, ond yn holi sut y gallem gynhyrchu ar gyfer y farchnad manwerthu â’r un cysondeb â chynhyrchu â llaw, ond ar raddfa fwy.”

Mae rhaglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru wedi cael effaith gadarnhaol ar werthiant y cwmni yn ogystal â swyddi, er gwaethaf y cyfnod cythryblus – gan ei bod yn debygol y bydd ganddynt 300 o staff erbyn gwanwyn 2023.

Ychwanegodd Mr Retallick: “Yn ystod cyfnod pan oedd pobl yn colli eu swyddi mewn cymaint o feysydd, llwyddom i osgoi diswyddo pobl a dileu swyddi, ac mewn gwirionedd, tyfom ein tîm.

“Mae gallu cefnogi cymunedau yng Ngogledd Cymru wrth greu swyddi yn bwysig iawn i ni. Rydym eisiau llenwi bron i 100 o swyddi newydd erbyn yr haf hwn. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth gan Arloesedd SMART.”

Dylan's CYM
Dylan's CYM