Mae COHES3ION yn anelu i integreiddio elfen ranbarthol ac isranbarthol i Strategaethau Arbenigaeth Smart (S3) gan ddatblygu mwy o gysondeb ar draws rhanbarth pob partner. 

Y canlyniadau a fwriedir ar gyfer yw prosiect yw:

  • cynyddu effaith gyffredinol S3 pob partner
  • gwella’r cysylltiadau rhwng rhaglenni gweithredol yn yr amgylchedd datblygu, ymchwil ac arloesi a’r sectorau cyhoeddus a phreifat
  • hyrwyddo model llywodraethu aml-lefel 

Mae’r prosiect yn cynnwys deg partner o wyth gwlad yn Ewrop (Sbaen, yr Eidal, Rwmania, Iwerddon, yr Almaen, Sweden, Gwlad Pwyl a Chymru).  

Bydd yn gweithio i sicrhau bod polisïau arloesi o lefel macro i lefel rhanbarthol micro yn cyd-fynd â’i gilydd, gan rannu ffyniant ar draws tiriogaeth pob partner.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen