Mae Menter Vanguard yn rhwydwaith o oddeutu pedwar deg o ranbarthau Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio eu strategaethau arbenigo clyfar er mwyn gwella cystadleurwydd eu prif sectorau diwydiannol. Nod arall yw cydweithio er mwyn cefnogi datblygiad yn y nifer sy’n elwa ar dechnolegau a chynhyrchion newydd ac arloesol.

Mabwysiadodd Cymru Arbenigo Clyfar yn gynnar ac mae Cymru’n Arloesi, ein Strategaeth Arloesi newydd, sy’n seiliedig ar genhadaeth yn cyd-fynd yn dda â’r broses o ddatblygu’r cysyniad o Bartneriaethau Arloesi Rhanbarthol.

Gwnaethom hefyd gyflwyno strategaeth arloesi newydd Cymru i gynrychiolwyr o bob rhan o ranbarthau Ewropeaidd. Cafwyd cyfle i drafod gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio rhanbarthol a meithrin diwylliant o arloesi yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Menter Vanguard, cliciwch yma

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen