Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae tri phrosiect KTP wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau ‘Y Goreuon'. Mae Coleg Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Biocatalysts Ltd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Rhagoriaeth ym maes Peirianneg. Gan ddangos defnydd rhagorol o sgiliau peirianneg, ar y cyd maent wedi gweithredu dulliau newydd o weithio yn ôl graddfeydd llawer llai (‘Ultra Scale-down’)  i gynyddu cynhyrchiant gweithgynhyrchu ensymau hyd at 50% mewn rhai achosion.

Mae Verity Moorhouse wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arweinydd y Dyfodol. Gan weithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a So Modular, mae hi wedi helpu i wella prosesau cynhyrchu a gosod er mwyn helpu’r broses o bontio i adeiladu modiwlaidd cynaliadwy, gan helpu So Modular i fodloni'r safonau gweithredol ar gyfer adeiladau bron yn ddiynni.

Mae'r enwebai terfynol, Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Plant Dewi Sant, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Effaith Gymdeithasol. Maent wedi sicrhau manteision cymdeithasol sylweddol wrth drawsnewid gwasanaethau mabwysiadu drwy ddatblygu modelau arloesol sy'n helpu i gefnogi'r plant hynny sy'n aros hiraf i gael eu mabwysiadu. O ganlyniad, mae gwasanaethau mabwysiadu sy'n ffurfio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael eu hatgyfnerthu o ran y gofynion sydd eu hangen i helpu i atal cynnydd mewn argyfyngau teuluol. Mae’r bartneriaeth eisoes wedi arwain at fabwysiadu 22 o blant yn barhaol hyd yma.

Eisiau cymryd rhan? Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn ei chymorth i 2022, gan gyfrannu 75% o gostau prosiect KTP ar gyfer busnesau bach a chanolig cymwys, gan ei gwneud yn haws cael gafael ar gymorth arloesi a gwella perfformiad busnes. Rhaid i gynigion gael eu datblygu a'u cyflwyno ar y cyd erbyn canol dydd, ddydd Mawrth 2 Chwefror 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais a’r cymorth sydd ar gael, cliciwch yma

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen