Eleni canolbwyntiwyd ar archwilio ‘tegwch’ yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Roedd y digwyddiad eleni yn edrych ar effeithiau anghymesur newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd, ac yn mynd i'r afael â sut y gallwn sicrhau bod buddion sy'n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas.

Yn ogystal, ceisiodd y digwyddiad egluro cysylltiad newid yn yr hinsawdd â'r argyfwng costau byw a'r rhwystrau y mae rhanbarthau a chymunedau busnes yn eu hwynebu.

Mae rhaglen Wythnos Hinsawdd Cymru hefyd yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 'Fframwaith Pontio Teg' newydd i gael barn pobl ar sut i gyrraedd Sero Net.

I ddarllen mwy am Wythnos Hinsawdd Cymru cliciwch yma ac i ddarllen mwy am y ‘Fframwaith Pontio Teg’ cliciwch yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen