A pair of hands in purple gloves holding seaweed

Cynnyrch gwymon arloesol PlantSea yn ‘troi’r llanw’ ar lygredd plastig

Mae Arloesedd SMART wedi helpu PlantSea:

  • I ddatblygu cynhyrchion bioddiraddadwy a wneir o wymon i ddisodli plastigau niweidiol
  • Cael mynediad i farchnad dorfol bosibl â chynhyrchion gofal gwallt a chynhyrchion garddwriaethol
  • Cyngor ar ddylunio, gweithgynhyrchu, ac eiddo deallusol

Mae cwmni PlantSea o Ynys Môn yn datblygu cynhyrchion bioblastig carbon isel yn seiliedig ar wymon, gyda chyllid ac arbenigedd a dderbyniodd trwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ffurfiwyd y cwmni newydd cyffrous hwn yn 2020 gan dri myfyriwr PhD a gyfarfu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl ennill gwobr dyfeiswyr gwerth £10,000, aethant ati i gydweithio i ddod o hyd i ddeunyddiau amgen i ddisodli plastigau niweidiol a gynhyrchir o betrolewm.

Uchelgais fentrus PlantSea yw troi’r llanw ar lygredd plastig wrth ddatblygu deunyddiau cynaliadwy a bioddiraddadwy arloesol a chost-effeithiol sy’n deillio o wymon i ddisodli plastigau untro.

Mae’r cwmni’n cynnal ymchwil ar wymon ac yn datblygu cynnyrch ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, megis pecynnu a gofal gwallt. Mae’r cynhyrchion targed yn cynnwys tomwellt amaethyddol o blastig ystwyth, a ddefnyddir yn sylweddol yn y diwydiant garddwriaethol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r math hwn o domwellt yn gorchuddio planhigion yng nghamau cynnar eu cylch twf ac mae ganddo’r potensial i ddatgloi marchnad dorfol.

Cysylltodd PlantSea ag Arloesedd SMART ym mis Chwefror 2020 er mwyn edrych ar sut y gallai’r cwmni fynd ati i gynhyrchu plastig amaethyddol, gyda’r nod o greu model busnes a fyddai’n eu galluogi i gynnwys bioddeunyddiau newydd y cwmni mewn dulliau gweithgynhyrchu sy’n bodoli.

Bu Arloesedd SMART yn cynghori’r cwmni ar nifer o agweddau ar eu proses o ddatblygu cynnyrch, o ddylunio a gweithgynhyrchu i eiddo deallusol, ac mae hyn wedi helpu i wthio’r prosiect yn ei flaen.

Dywedodd Gianmarco Sanfratello, cyfarwyddwr ymchwil a datblygu cynnyrch PlantSea: “Mae Arloesedd SMART yn rhaglen gymorth wych oherwydd mae’n helpu â’r ymchwil ar gamau gwahanol. Rydym wedi manteisio ar y ffaith y gallwn dderbyn cyllid da yn y cyfnod cynnar, ac yn bwysig iawn, roedd ganddynt ffydd ynom.”

Yn ogystal â’r brif farchnad darged ym maes garddwriaeth, mae’r cyllid a’r cyngor a gafodd PlantSea drwy’r rhaglen wedi galluogi’r tîm i weithio’n agos â chwmni Cymreig Olew Ltd a Phrifysgol Bangor ar frand cynhyrchion gofal gwallt. Mae hyn yn cynnwys defnyddio deunydd pecynnu bio-polymer PlantSea ar gyfer y cynhyrchion hyn.

Mae’r cyllid a’r cymorth a dderbyniwyd wedi bod mor ddefnyddiol fel bod PlantSea bellach yn gobeithio gweithio ag Arloesedd SMART unwaith eto, er mwyn cael cyllid ychwanegol i gefnogi’r cam nesaf yn natblygiad eu cynnyrch bioblastig cynaliadwy a charbon isel, gan gynnwys creu prototeipiau.

Wrth sôn ymhellach am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru, dywedodd Alex Newnes, cyfarwyddwr technoleg, cynaliadwyedd a’r amgylchedd PlantSea: “Bu’r Arbenigwr Arloesedd yn gefnogol dros ben. Mae wedi rhoi’r holl wybodaeth a’r anogaeth angenrheidiol i ni i wybod pa gyfeiriad i’w gymryd ac mae wedi cadw llygad arnom.”

PlantSea CYM
PlantSea CYM