Three white men overlook a water wastage system

Creu dyfeisiau arloesol ar gyfer dŵr gwastraff er mwyn lleihau effaith gollyngiadau dŵr gwastraff ysbeidiol ar yr amgylchedd

Mae Arloesedd SMART wedi helpu Samatrix i:

  • Ddylunio dyfais sy’n datrys rhwystrau er mwyn lleihau effaith gollyngiadau o Orlifoedd Storm Cyfunol (CSOs)
  • Datblygu dull cydweithredol gyda Dŵr Cymru
  • Gyrru’r cwmni i drosiant gwerth £1.8m

Mae Samatrix – sef cwmni peirianneg yn Abertawe – wedi dylunio dyfais sgrin sy’n lleihau rhwystrau mewn systemau dŵr gwastraff, ac mae gan y ddyfais y potensial i leihau faint o falurion o orlifoedd storm cyfunol sy’n mynd i mewn i afonydd, diolch i’r cymorth a gafodd drwy raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ffurfiwyd Samatrix yn 2001 gan reolwr gyfarwyddwr presennol y cwmni, Samuel Munn, gyda’r nod o greu busnes cynaliadwy a oedd wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau i amrywiaeth o broblemau pwmpio.

Wedi hynny, lluniodd y cwmni syniadau dylunio sy’n helpu i wella ansawdd afonydd, ond nid oedd ganddo’r arian a’r arbenigedd angenrheidiol i’w helpu i dyfu’n fusnes hyfyw.

Cysylltodd Samatrix â Llywodraeth Cymru i ddechrau yn 2005 ynghylch grant cymorth a ddarparodd y cyllid angenrheidiol i benodi nifer o raddedigion peirianneg o’r radd flaenaf o Brifysgol Abertawe, gyda rhai ohonynt yn symud ymlaen i fod yn weithwyr amser llawn.

Ers hynny, mae Arloesedd SMART wedi gallu rhoi’r cwmni mewn cysylltiad ag arbenigwyr arloesi sydd wedi cynorthwyo â datblygu cynnyrch, ac wedi darparu cysylltiadau rhwydwaith â rhanddeiliaid allweddol, megis Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a Severn Trent.

Diolch i gymorth y fenter hon gan Lywodraeth Cymru, mae Samatrix bellach wedi cyflwyno ei ddatrysiadau dŵr gwastraff i 27 o gwmnïau yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Munn: “Mae Arloesedd SMART yn fwy na dim ond cymorth ariannol neu becyn – mae’n ffrind hefyd – yn aelod arall o’r tîm.”

Ers 2015, mae Arloesedd SMART wedi cefnogi Samatrix â’r ddyfais sgrin NORAG sy’n datrys rhwystrau – o gefnogi’r broses o gyflawni astudiaeth ddylunio, i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu mecanwaith y cynnyrch a gwneud addasiadau.

Mae’r system NORAG gan Samatrix yn hidlo eitemau fel cadachau gwlyb a masgiau wyneb mewn systemau carthffosiaeth. Mae’n ddyfais syml a chost-effeithiol ac nid oes arni angen gwaith cynnal a chadw na chyflenwad pŵer; yn hytrach, cerrynt dŵr sy’n galluogi’r ddyfais i weithio. Nid oes ganddi unrhyw rannau symudol ac mae’n tynnu deunydd a fyddai fel arall yn cronni ac o bosibl yn tagu sgriniau.

Mae’n bwysig bod cwmnïau fel Samatrix yn deall yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dŵr ac yn gallu gweithio ar y cyd â phartneriaid diwydiannol i ddatblygu datrysiadau arloesol y gellir eu profi mewn amgylchedd byd go iawn er lles y cyhoedd a’r amgylchedd.

Ychwanegodd Mr Munn: “Gwahoddais arbenigwyr arloesi SMART i’n ffatri i edrych ar NORAG ac fe’u syfrdanwyd, gan fynnu bod angen i ni ei roi ar lwyfan.

“Pan ddechreuais y cwmni gyntaf, roedd gennym drosiant gwerth £80,000. Erbyn dechrau 2020, roedd gennym 23 o weithwyr a throsiant gwerth £1.8m.

“Felly, rydym wedi tyfu’n sylweddol dros y cyfnod hwnnw. Heb os nac oni bai, y dylanwad, y cymorth a’r gefnogaeth gan Arloesedd SMART fu’n gyfrifol am hynny i raddau helaeth.”

Samatrix video CYM
Samatrix video CYM