man on boat

Swallow Yachts yn codi hwyl trwy ddylunio cwch ‘radical’ newydd 

Helpodd Arloesedd SMART Swallow Yachts i:

  • Ddatblygu cwch hwyliau gwerth £180,000 sydd wedi cael ei enwebu am wobr
  • Gyrraedd rhywle lle gallai allforio 20% yn fwy yn y ddwy flynedd sydd i ddod
  • Sefydlu ei hun fel un o’r prif adeiladwyr cychod hwyliau yng Nghymru

Mae’r gwneuthurwr cychod sydd wedi’i leoli yn Aberteifi, Swallow Yachts, wedi cynhyrchu cwch hwyliau sydd wedi’i enwebu am wobr, ac mae’n gobeithio rhoi hwb i’w allforion i UDA – diolch i’r cymorth a gafodd gan raglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Swallow Yachts yn gweithgynhyrchu amrywiaeth o gychod undydd wedi’u teilwra, sy’n cael eu gwerthu i’r farchnad hamdden yn y DU ac yn fyd-eang, gydag allforion yn cyfrif am 25 y cant o’i ffrwd refeniw ar hyn o bryd. Cysylltodd y cwmni ag Arloesedd SMART i’w helpu i ddatblygu cwch hwyliau cyflym a allai weithredu dair gwaith yn gynt na chwch hwyliau arferol dan beiriant, heb aberthu cysur. Y bwriad yw ehangu ei gyfran o’r farchnad, yn enwedig yn UDA.

man working on computer

Dywedodd Matt Newland, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Swallow Yachts: “Yr hyn sy’n rhoi’r llawenydd mwyaf i fi yn y busnes yw meddwl am syniadau arloesol a cheisio cael dyluniad sy’n hyfyw yn fasnachol er mwyn cyd-fynd â nhw – rhywbeth y bydd ein cwsmeriaid yn gallu ei brynu, ac eisiau ei brynu.

“Ein rheswm dros gysylltu â Llywodraeth Cymru oedd trafod dichonoldeb yr hyn a elwir bellach yn COAST 250, sef math o gwch hwyliau bach sy’n gwbl wahanol i’r hyn y mae ein tîm, a’n cystadleuwyr, wedi ei wneud o’r blaen, trwy gyfuno cyflymder dan bŵer a pherfformiad hwylio rhagorol.

“Mae gan gwch hwylio arferol siâp tanddwr sydd wedi’i greu ar gyfer ymwrthedd isel ar gyflymder hwylio arferol, sef tua chwech neu saith milltir yr awr. Maen nhw’n moduro ar gyflymder tebyg hefyd, oherwydd os hoffech fynd yn gynt, bydd angen peiriant anferth arnoch, gan fod y siâp tanddwr mor aneffeithiol ar gyflymder uwch. Mae’r rhan fwyaf o gychod hwyliau yn defnyddio injan ddisel ar gyfer cael gyriant ychwanegol, neu fwrdd petrol allanol ar y cefn. Mae byrddau allanol yn llawer mwy pwerus o gymharu â’u pwysau nag injan ddisel, ond mae eu safle ar gefn y cwch yn golygu y byddai bwrdd allanol mawr yn effeithio ar berfformiad hwylio, gan y byddai’n pwyso’r cefn i lawr ac yn achosi mwy o lusgiant.”

Yn wreiddiol, cysylltodd Swallow Yachts â thîm Arloesedd SMART am help i gael y cyllid angenrheidiol er mwyn ei helpu i gyflawni ei uchelgais, sef dylunio cwch sy’n cynnal ei gyflymder dan bŵer, heb aberthu pa mor hawdd ydyw i’w symud a’i berfformiad hwylio. Gweithiodd y cwmni’n agos gydag Arbenigwr Arloesi yn Arloesedd SMART i ddatblygu’r cysyniad gwerth £180,000, gan wireddu’r syniadau dechreuol mewn 15 mis.

Dywedodd Mr Newland: “Gyda chymorth Arloesedd SMART, rydym wedi cyflawni ein nod o ddatblygu cwch hwyliau sy’n gyflym dan beiriant a dan hwyliau. Gwnaethon ni hyn trwy ddefnyddio technegau modelu cyfrifiadurol uwch er mwyn optimeiddio siâp corff y llong; ymgorffori arwynebedd sy’n rheoli tindafliad dynamig yn y dyluniad; a gosod peiriant “bwrdd allanol” ysgafn yng nghanol y cwch, lle byddech yn gweld peiriant disel trymach a mwy o faint fel arfer. Mae hyn yn golygu bod pwysau’r cwch yn cael ei ddosbarthu’n fwy cyson, ac mae’n sicrhau y gall gynnal cyflymder pŵer uchel - hyd at 17 milltir yr awr - heb effeithio ar y perfformiad hwylio. Hefyd, mae lleoliad y peiriant newydd mewn man cuddiedig a diogel, sy’n atal lladron posibl. Mae’r nodweddion hyn yn galluogi’r COAST 250 i gyflwyno pecyn perfformiad unigryw ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Mae’r cwch wedi cael adborth da iawn, gyda’n tîm yn ei arddangos yn Sioeau Cychod Rhyngwladol Southampton a Dusseldorf, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer y categori ‘Llong Deuluol’ yn y Gwobrau Cwch Hwyliau’r Flwyddyn Ewropeaidd 2019. Hefyd, rydym yn ei ddefnyddio fel catalydd i roi hwb i’n galluoedd allforio – ein nod yw gweld twf o 20% yn y rhan hon o’r busnes yn y ddwy flynedd nesaf – trwy dargedu marchnadoedd gwerth uchel, fel UDA. Hefyd, mae wedi’n helpu i gadarnhau ein safle fel un o’r prif adeiladwyr cychod yng Nghymru.

“Heb gymorth Llywodraeth Cymru, ni fyddem wedi llwyddo i gael y fath gydnabyddiaeth ryngwladol. Byddwn yn argymell unrhyw un sy’n ystyried datblygu prosiect arloesol i gysylltu â’r arbenigwyr arloesi yn Arloesedd SMART – mae wedi bod yn berthynas gwbl gadarnhaol ar gyfer Swallow Yachts.”

Swallow Yachts video CYM
Swallow Yachts video CYM