Mike Evans

Cefais fy ngeni yn Abertawe a dyna le ddechreuodd fy ngyrfa fel prentis trydanwr i gwmni contractio trydanol lleol. Yn ystod y 27 mlynedd nesaf yn y diwydiant contractio trydanol rhoddodd y cwmni gyfle i mi ddatblygu fy ngyrfa o fod yn brentis trydanwr i fod yn rheolwr peirianyddol yn Birmingham ac yn Gyfarwyddwr Rhyngwladol dramor cyn dychwelyd i'r DU fel rheolwr cyffredinol yng Nghaerdydd.

Ym 1992 aeth fy ngyrfa i gyfeiriad newydd ac roeddwn yn rheolwr rhanbarthol ar gyfer cwmni rhyngwladol yn y diwydiant rheoli ac awtomeiddio prosesau. Rhan fawr o’m gwaith oedd bod yn rheolwr datblygu busnes gyda chyfrifoldeb am Sicrhau Ansawdd.

Mae fy ngyrfa hyd yn hyn wedi datblygu fy sgiliau fel rheolwr peirianneg, syrfëwr meintiau, cyfarwyddwr rhyngwladol ym mhob penodiad, rheoli timau o bobl i gyfrannu'n llwyddiannus at lwyddiant y cwmni a fy natblygiad personol.

Wrth weithio yn y diwydiant contractio trydanol gydol diwedd y 1970au a’r 1980au, pan oedd gwasanaethau adeiladu ar eu hanterth, roedd rheoli ansawdd rhaglenni elw a cholled sgìl allweddol, ac yn parhau i fod felly, i gwrdd â thargedau busnes a buddsoddi mewn sgiliau pobl.

Tra'n symud o gwmpas y DU a thramor roedd fy nheulu’n chwarae rhan bwysig yn fy nghefnogi i gyflawni fy nod gyrfaol o ymdrechu i sicrhau’r gorau i ni i gyd a’r cwmni roeddwn i’n gweithio iddo.

Roedd profi diwylliannau gwahanol bobl o dde Cymru i Ganolbarth Lloegr a gweithio dramor yn cyflwyno her newydd i mi ddatblygu fy sgiliau aseswr i annog pobl i ysgwyddo cyfrifoldeb ac i lwyddo.

Fy rôl heddiw yw chwilio am gyfleoedd newydd a datblygu prosesau ansawdd ar gyfer cwmnïau Cymreig o’m cartref yn Abertawe.

Drwy gydol fy ngyrfa ac yn fy mywyd teuluol, os byddwch yn gwneud eich gorau i gyfathrebu'n dda, byddwch yn sicrhau parch. Hanfod fy nghymwysterau proffesiynol a phrofiadau bywyd yw annog pobl i gyflawni eu nodau.  

  • Enw
    Mike Evans
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Gorllewin Morgannwg