Hazel Ann Thomas

Derbyniais fy hyfforddiant i fod yn ben-cogydd yng Ngholeg Westminster, Llundain ar ddiwedd y 70au, a dyna ble y dysgais bwysigrwydd  cynllunio da - neu​ “mise en place” fel y byddwn ni, ben-cogyddion, yn ei ddweud. Roedd fy swydd amser llawn gyntaf yn y Dorchester Hotel, lle’r oedd Anton Mosimann yn Brif Ben-cogydd. Wrth imi ddatblygu yn fy ngyrfa, aeth y gwaith â mi i Tregenna Castle Hotel yn St Ives, Cernyw lle gefais y cyfle i ddysgu am wasanaethau blaen tŷ a sgiliau goruchwylio eraill. Yn dilyn hynny, newidiais yrfa a mynd i astudio Gwyddor Gymdeithasol, Iechyd a Chlefydau a Lles Cymdeithasol - Problemau Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Defnyddiais y credydau a enillais i sicrhau lle ar gwrs Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Graddiais gyda BA Anrhydedd yn y Gymraeg ym 1996. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi agor Oriel Gelf gyda phartner busnes, siop delicatessen fel unig fasnachwr ac wedi rhedeg y caffi yng Nghanolfan Aur Rhiannon yn Nhregaron, cyn dechrau gweithio fel Trefnydd Digwyddiadau ac Ymgynghorydd Bwyd yn hyrwyddo cynnyrch Cymru mewn digwyddiadau proffil uchel ar ran Cyfarwyddiaeth Fwyd Llywodraeth Cymru. Roeddwn i’n un o’r 6 phen-cogydd a fu’n cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Werin Smithsonian yn Washington yn 2009. Yn 2010, ymunais â staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weithio ar y prosiect Treftadaeth Ddigidol yn y Gymuned ar gyfer rhaglen Casgliad y Werin Cymru (CWC). Wedi i’r prosiect hwnnw gael ei gwblhau, arhosais yn y Llyfrgell fel Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ar gyfer rhaglen CWC ac yn ddiweddarach symudais ymlaen i reoli’r uned sy’n gyfrifol am Ymgysylltu â’r Gymuned, Cynnwys a Moderneiddio. Ym mis Tachwedd 2016, fe’m penodwyd yn Bennaeth Cysylltiadau Allanol yn y Llyfrgell ac fe adewais y swydd honno ar ddiwedd mis Tachwedd 2017. Erbyn hyn, rwy’n gweithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian fel Swyddog Hyfforddiant yn y sector Lletygarwch. Rwyf hefyd yn cael fy nghyflogi gan Merched y Wawr fel Swyddog Datblygu a Hyrwyddo rhan-amser, yn gyfrifol am ganghennau Ceredigion a Sir Benfro. Rwyf wedi bod yn fentor ar gyfer Prime Cymru yn y gorffennol ac rwy’n teimlo bod gen i lawer i’w gynnig i fusnesau newydd, llawn addewid, gan na fyddwn wedi cyflawni cymaint yn fy mywyd heb gymorth, cefnogaeth ac arweiniad y mentoriaid sydd wedi rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda mi. Mae’n bryd i minnau roi’n ôl, drwy rannu hynny gydag eraill.

Hazel Ann Thomas
  • Enw
    Hazel Ann Thomas
  • Enw'r busnes
    HAT Events
  • Rôl
    Trefnydd Digwyddiadau ac Ymgynghorydd Bwyd
  • Lleoliad
    Dyfed