Lisa Buchanan

Unigolyn brwdfrydig sydd eisiau llwyddo gyda 17 mlynedd o brofiad o werthu a  rheoli cyfrifon yn y diwydiant Gwyddonol. Wedi troi fy sgiliau i osod masnachfraint gyffrous newydd yn y sector gofal iechyd yn darparu Gwasanaethau Gofal Cartref ledled De Orllewin Cymru. Braint yw cael bod yn rhan o Fentora Busnes Cymru ac rwy’n awyddus i helpu eraill trwy eu siwrnai fusnes.

Mae gennyf radd mewn Geneteg o Brifysgol Abertawe a phrofiad yn y diwydiant gwyddonol. Rwyf wedi bod mewn rolau amrywiol mewn labordai ac fel rheolwr cyfrifon yn datblygu cysylltiadau busnes gyda gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol yn cynnwys technegwyr labordai, darlithwyr a Rheolwyr Prynu.

Sefydliais Kare Plus Swansea ym mis Medi 2015 fel asiantaeth gyflogaeth yn cyflenwi staff gofalu i gartrefi nyrsio a gofal preswyl ledled De Orllewin Cymru. Amcanion cychwynnol y busnes newydd hwn oedd ei farchnata yn Abertawe a’r cyffiniau, ymweld â chleientiaid posib a dysgu iaith y farchnad yn sydyn, ochr yn ochr â recriwtio staff asiantaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau traddodiadol a chyfryngau digidol.

Yn nhymor yr hydref 2016, amrywiais weithrediad y busnes i ddarparu Gofal Cartref drwy ennill cofrestriad gyda chorff rheoli’r diwydiant, Arolygiaeth Gofal Cymru. Erbyn hyn mae Kare Plus Swansea yn ddarparwr gweddol fawr o ofal cartref o ansawdd a chefnogaeth cwmnïaeth i oedolion hŷn sydd ag ystod o anableddau, anawsterau dysgu a chyflyrau cyffredinol yr henoed.

Rwy’n adnabod a gosod amcanion busnes cyfannol ac yn darparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau bod gan y busnes yr isadeiledd ar waith i gyflawni’r amcanion a adnabuwyd ar y cyd. Rwy’n arsylwi ar agweddau ariannol ac AD pwysig o weithrediadau’r busnes yn uniongyrchol, tra bod y cyfrifoldebau dros recriwtio, rheolaeth gyffredinol o staff a darpariaeth y gwasanaeth yn cael eu dirprwyo i’m uwch dîm y swyddfa.

Yn ddiweddar, cwblheais Ddiploma NVQ Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, rwyf wastad yn herio fy hun ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd y gallaf eu rhoi yn y busnes i sicrhau ei hirhoedledd.

Lisa
  • Enw
    Lisa Buchanan
  • Enw'r busnes
    Kare Plus Swansea
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Abertawe